Mae bwrlwm mis o ganfasio gwleidyddol wedi gorffen. Y curo ar y drysau, y dadlau
ar y teledu ac ar y radio, a'r cyffro i gyd wedi dod i ben. Mae'r pleidleisio wedi bod,
a'r drysau wedi cau ar Fai 6ed.
Casglwyd y blychau duon ac i'r Trallwng yr aeth criw gweithgar a diwyd i gyfrif y pleidlesiau. Deng munud wedi dau, ar y bore Gwener y daeth y canlyniad, ac fel hyn roedd pethau'n sefyll ym Maldwyn.
Glyn Davies 13,976
Lembit Opik 12,792 Heledd Fychan 2,802
Nick Colbourne 2,407 David Rowlands 1,128 Milton Ellis 384 Bruce Lawson 324
Roedd 69.4 y cant wedi troi allan i roi'r groes yn y sgwar bach o'u dewis. Canran eithaf uchel o'r bobiogaeth.
Glyn Davies, y Ceidwadwr felly fydd yn cynrychioli Maldwyn yn San Steffan.
Liongyfarchiadau iddo, a gobeithiwn yn fawr y bydd yn wir roi Maldwyn ar y map Prydeinig yn Nhy'r Cyffredin.
Dyn cefn gwlad o Faldwyn, wedi'i eni a'i fagu ar fferm deuluol ger Castell Caereinion ydy Glyn Davies, yn briod a Bobbie, ac yn dad i bedwar o blant, ac yn daid i Ffion a Darragh.
Mae wedi cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ym Maldwyn ers dros ddeng mlynedd ar hugain.
Ymunodd yn y Ile cyntaf a Chyngor Cymuned Aberriw, ac fe fu yn aelod o Gyngor Dosbarth Maldwyn.
Yn fwy diweddar treuliodd wyth mlynedd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Drws San Steffan sydd ar agor iddo bellach, a dymunwn yn dda iddo, fel un o ddarllenwyr y Seren, yn ei swydd newydd bwysig lawn.
|