Oeddech chi'n gwybod bod canran sylweddol o ddysgwyr y Gymraeg yn buddsoddi llawer o amser ac arian yn eu hymdrech i ddysgu Cymraeg? Maent yn mynd i ddosbarthiadau un new dwywaith yr wythnos, mynychu Sadyrnau Siarad (fel y bobl yn y llun isod) ac Ysgolion Pasg a Haf, ac mae rhai ohonynt yn mynd ar gyrsiau hirach yn ystod yr haf.
Felly, beth sydd eisiau arnynt i ddod yn siaradwyr Cymraeg sydd a hyder i ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r dosbarth? Yn syml, CHI, pobl sydd yn siarad Cymraeg bob dydd.
Mae dysgwyr yn ei chael hi'n anodd defnyddio eu Cymraeg y tu allan i'r dosbarth, er bod rhai ohonynt yn gallu cynnal sgwrs eithaf da yn y Gymraeg.
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru, Prifysgol Aberystwyth, yn chwilio am wirfoddolwyr o siaradwyr Cymraeg i ddod i mewn i'r dosbarth Cymraeg i gynnal sgwrs a gr诺p bach o ddysgwyr.
Gall y sesiynau fod yn sesiynau hanner awr neu hyd at ddwy awr dwy neu thair gwaith y flwyddyn. Darperir hyfforddiant ymlaen Ilaw a byddai tiwtor y dosbarth wrth law i roi arweiniad yn ystod y sesiwn.
'Mae'n rhoi hyder i mi rannu'r hyn sydd yn etifeddiaeth i mi ac yn werthfawr i mi gyda phobl sydd am ddysgu siarad yr faith mewn sefyllfa ddiogel wedi'i threfnu' meddai Elisabeth James, gwirfoddol wraig sydd yn cynorthwyo tair gwaith y fiwyddyn.
Mae'r sesiynau hanner awr yn ddefnyddiol iawn. Mae'n dda ymarfer siarad' meddai Kim, dysgwraig sydd bellach yn hollol rugl.
I ddechrau rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ddatblygu'r cynllun yn yr ardaloedd canlynol: Y Trallwng, Llanfair Caereinion, Y Drenewydd a Llanfyllin.
Byddai Menna Morris wrth ei bodd I glywed gennych I drafod sut a phryd bydd modd I chi gymryd rhan yn y cynllun cyffrous hwn, Y Cynllun Pontio. Gallwch gysylltu 芒 hi i gael mwy o wybodaeth ar:
01686 614226 neu mom@aber.ac.uk
Cynhelir cyfarfodydd lleol i bawb sydd a diddordeb yn ystod misoedd Mai a Mehefin 2009.
|