"Gwawriodd Sadwrn, 17 Hydref yn sych ac yn braf, ac yr oedd hynny'n argoeli'n dda.
Pan gyrhaeddais Canolfan y Gymuned yn Llanidloes tua hanner awr wedi un cefais fy siomi'r ochr orau pan welais dorf dda o bobl wedi ymgynnull.
Roedd pobl ar y palmentydd wrth i'r oryrmdaith nadreddu ei ffordd ar hyd strydoedd y dref y tu 么l i Seindorf Y Drenewydd.
Mae'r Ilecyn lle y mae Meini'r Orsedd yn Llanidloes yn Ilecyn hyfryd, er nad yw'n wastad iawn.
Roedd hi'n wych gweld cymaint o bobl o gwmpas Cylch yr Orsedd, ac yr oedd y seremoni'n ardderchog.
Bu'r cyngerdd gyda'r hwyr gan G么r Y Brythoniaid yn wefreiddiol.
Cafwyd unawdau gan John Eifion, John Murray a Goronwy Hughes. Y Cyfeilyddion oedd Huw Alan Roberts ac Elisabeth Ellis, a roddodd i ni ddwy unawd ar y piano hefyd.
Roedd hi'n hyfryd cael cwmni yr Arglwydd a'r Fonesig Hooson fel Ilywyddion, a derbyniodd Emlyn gymeradwyaeth frwd am ei araith yn ystod yr Egwyl.
Roedd cynulleidfa niferus yn bresennol, ac, yn wir, yr oedd y cyfan yn goron deilwng ar 糯yl Gyhoeddi Iwyddiannus dros ben. Diolch i bawb."
|