Pam Bolifia medde chi? Wel, roedd o'n rhyw fath o bererindod i mi achos mod i eisiau gweld La Higuera, y pentref ble y lladdwyd Che Guevara, y chwyldroadwr, gan y C.I.A ym 1967. Roeddwn hefyd yn awyddus iawn i weld prydferthwch yr Andes a'r "altiplano" wrth gwrs. Ar 么l setlo i lawr mewn "cabana" hyfryd, a llogi car, i ffwrdd a ni i Vallegrande ar y ffordd i La Higuera. Penderfynasom ni fynd yn syth at y pentref a gweld Vallegrande wedyn - jobyn da achos fe aethom ni ar goll yn anobeithiol! Yn uchel iawn, efo niwl yn twchu bob munud a dim golwg o berson o gwbl yn unman, roeddem ni'n falch iawn o weld criw mawr o bobl mewn lori uchel a oedd dan ei sang o ddodrefn. "Esgusodwch fi, ydach chi'n gallu dweud wrtha i y ffordd i La Higuera?" gofynnais i hen wraig oedd yn goruchwilio'r holl broses. "Un funud", atebodd a rhedodd i ffwrdd a daeth yn 么l efo gwraig ifanc a dau fachgen. Meddai hi "Mi ddown nhw efo chi a dangos y ffordd i chi". Felly y bu ac roedden nhw yn falch iawn o gael lifft mewn car llawer mwy moethus na lori ddodrefn! Pentre bach tlawd a thawel ydy La Higuera. Mae moch bach yn crwydro o gwmpas a dynes y siop yn fodlon iawn dangos lluniau i chi o'i nain yn sefyll wrth ochr Che cyn y frwydr olaf. Dydy'r hen ysgol ddim wedi newid ac mae yna arddangosfa fechan. Prin iawn ydy'r pethau tu mewn - y gadair ble y cafodd o'i saethu, pl芒t, cyllell, ffyrc, ei feret du a'i stethosgob. Lle o dristwch ac o obaith. Tristwch yn nigwyddiadau cywilyddus y lle ond gobaith yn yr ysgol.
|