Ar dudalen 11 o Seren Hafren (rhifyn Chwefror 2007) fe welwch Ddatganiad i'r Wasg gan gwmni Theatr Genedlaethol Cymru. Newyddion Da! Mae'r cwmni yn cyflwyno Cysgod y Cryman ar lwyfan am y tro cyntaf. Mae'n hanner can mlynedd ers i un o nofelau mwyaf adnabyddus Maldwyn a'r Gororau gael ei chyhoeddi. Ble felly mae'r ddrama bwysig hon yn cael ei pherfformio?
Ym Mrycheiniog ac yn Yr Wyddgrug! Beth sydd a wnelo'r lleffydd hyn a Maldwyn? Onid oes 'na Theatr ragorol ym Maldwyn? - Theatr Hafren.
Anelwyd y datganiad i bapurau bro Maldwyn a'r Gororau. Pam felly nad oes perfformiad ym Maldwyn? Tybed a ydy'n cwmni cenedlaethol ni yn gwybod nad yw Brycheinlog na'r Wyddgrug ym Maldwyn'? Disgrifia'r cwmni nofel Islwyn Ffowc Elis fel un o nofelau mwyaf adnabyddus Maldwyn. Onid yw'r cwmni yn sylweddoli fod na theatr ym Maldwyn?
Siaradodd Seren Hafren gyda Cwmni Utgorn a cael dau reswm.
Yn gyntaf, profodd yn amhosib i gael dyddiad addas gan Theatr Hafren ac yn ail, gan fod y sioe yn un fawr gyda cast o ryw 24 a set gymleth, roedd 'na gwestiwn a oedd Theatr Hafren yn addas. Tybed! Roedd cast Cwmni Theatr Maldwyn yn fwy o lawer na 24 a'r setiau yn gymhleth hefyd.
Ar 么l gwneud ymholiadau yn Theatr Hafren mae Seren Hafren yn deall fod 'na anhawster yngl欧n 芒 chael dyddiad addas yn ystod taith Cysgod Y Cryman. Mae hefyd yn bosib nad yw llwyfan ein theatr lleol ddim yn ddigon mawr i'r cynhyrchiad. Serch hynny, mae'n biti mawr nad yw'r ddrama bwysig hon yn dod i Faldwyn.
Gyda llaw mae gwefan y cwmni yn dangos dyddiadau'r daith a diddorol yw gweld y bydd perfformiad yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 27 - 28 Chwefror. O leia mae hynny'n nes nag Aberhonddu neu Yr Wyddgrug!
Adolygiadau Cysgod y Cryman
|