Cychwynodd 217 o gerddwyr o Landyfi am 4.00 o'r gloch fore Sadwrn Mehefin 21. Eu n么d oedd cyrraedd Tafarn yr Anchor sydd yn Sir Amwythig, ryw 42 milltir i ffwrdd. Wrth lwc roedd y tywydd yn sych a mwyn wrth iddynt gerdded i fyny Dyffryn Llyfnant. Erbyn cyrraed Pantglas roedd ambell gerddwr yn defnyddio ymbarel!
Tua 6.30 daeth i'r glaw o ddifri gyda gwynt cryf hefyd. Roedd y daith o Lyn Glaslyn dros y rhosdir i Benfforddlas yn anodd iawn. Gostegodd y gwynt a'r glaw ac er na chawsont ddiwrnod bendigedig, roedd yr amgylchiadau o Benfforddlas i'r diwedd yn weddol dderbyniol.
Cyrrhaeddodd 153 o'r cerddwyr gwreiddiol yr Anchor. Yn rhyfedd iawn, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn hapus ac yn addo dod 'nol y flwyddyn nesaf.
Cyrhaeddodd 70 o gerddwyr eraill oedd wedi cychwyn ym Mhenfforddlas, neu Llandinam neu Dolfor.
Roedd nifer o'r cerddwyr yn casglu arian nawdd. Mae'n debyg iddynt godi tua 拢28,000 i'w gwahanol elusennau.
Diolch i bawb a gymerodd rhan a diolch hefyd i aelodau Clybiau Rotari Llanidloes a'r Drenewydd am drefnu'r achlysur.
|