Roedd tri man addoliad yn cael eu defnyddio ac roedd swyddogion ac aelodau'r gwahanol Eglwysi sy'n rhan o CYTUN yn rhan o'r cast. Ymwelodd dros ddau gant a hanner o blant o ysgolion dalgylch Ysgol Uwchradd Llanidloes dros nifer o ddiwrnodau a'r arddangosfa. Stori'r Pasg oedd yn cael ei bortreadu mewn gwahanol ffyrdd. Dechreuwyd y daith yng nghapel y Methodistiaid yn stryd y Bont Hir. Cafwyd cefndir a hanes y Swper Olaf gan Weinidog y capel sef y Parch Peter Jennings. Roedd y festri wedi ei threfnu gyda bwrdd wedi ei osod gyda'r bwyd ac ati fel y deallwn yr oedd y drefn noson y Swper Olaf. Cyn symud ymlaen i ran nesaf y cyflwyniad roedd cyfle i bawb brofi'r bwyd a'r diod. Roedd y rhan yma wrth fodd y plant a'r oedolion fu'n ymweld 芒 rhan hyn y cyflwyniad yn sicr. Yna ymlaen drwy Borth Hafren Llanidloes a ymdebygai i'r daith i Ardd Gethsemane. Aelodau Eglwys Sant Idloes oedd yn gyfrifol am y rhan ddramatig hyn ac roedd yn afaelgar tu hwnt. Cyfarchwyd a thywyswyd yr ymwelwyr ar eu taith gan wraig a bortreadai'r angel. Yna ymddangosodd milwr Rhufeinig yn sydyn yn ystod y rhan hyn ac yna diflannu wedyn yr un mor ddisymwth. Gyda'r ffagl yn ei llaw arweiniwyd ni at Martha gan yr angel. Cyflwynwyd yn ddramatig a theimladwy iawn gan Martha sut fu i lesu gael ei wadu gan Pedr ac mor anodd oedd iddi ddioddef y fath brofiad. Yna ymddangosodd Pilat (sef y rhan a chwaraewyd gan y Ficer Bob Pritchard) a arweiniodd bawb yna i'r llys barn yng nghefn Eglwys Sant Idloes. Cyflwynodd berfformiad credadwy iawn o Pilat ganddo cyn arwain pawb at y Groes lle y croeshoeliwyd yr lesu a dyna pryd y daeth Mair Magdalen i arwain yr olygfa. Y Parch Linda Cowan oedd yn portreadu'r cymeriad hyn a gwnaeth hynny yn wirioneddol effeithiol a theimladwy. Yna arweiniwyd ni allan o'r eglwys i Gapel y Drindod gan Mair Magdalen a bortreadwyd gan Llinos Morris yn y rhan hyn. Yna wedi i bawb gyrraedd aeth ymlaen gyda'r stori o'r bedd gwag a'r Atgyfodiad. Cafwyd portread credadwy a gafaelgar eto gan Llinos o ran olaf stori'r Pasg. Yna arweiniwyd y rhan ddefosiynoi gan y Parch Jenny Garrard yn ei ffordd ddiymhongar a boneddigaidd a ddarllenodd gerdd wych am wir ystyr y Pasg. Roedd mynd i mewn i Eglwys y Drindod yn brofiad hunllefus ynddo'i hun gyda arddangosfeydd bendigedig o stori'r Pasg, y Bedd Gwag, Gardd Gethsemane ac arddangosfeydd yn dangos gwahanol olygfeydd o Gristnogaeth ar waith heddiw, trefniadau blodau ffantastig ar sawl sil ffenestr a'r clytwaith penigamp gyda'r llythrennau'n "HAPPY EASTER" oedd yn eich cyfarch a thynnu eich sylw wrth fynd i mewn. Mae angen diolch i bawb o aelodau CYTUN a weithiodd mor galed i roi'r gwaith hyn oll at ei gilydd ond mae'n rhaid estyn llongyfarchiadau calonnog i'r person/personau gafodd y weledigaeth i gyflwyno Stori'r Pasg yn y fath ffordd. Yn sicr bu gan y Parch Jenny Garrard ran allweddol yn yr arddangosfa a'r perfformiad i gyd a diolch Jenny am eich gweledigaeth chi. Bu'n brofiad gafaelgar, ysbrydol, teimladwy a heintus i bawb fu'n ei weld.
|