Daeth tua pymtheg o'r aelodau i'r cyfarfod i fwynhau cwmni-y siaradwr ffraeth, llawn hiwmor a dangosodd nifer o sleidiau o fywyd gwyllt o bob math; o flodau i greaduriaid bach ac adar.
Trafodwyd y gwahnol enwau oedd ar gael ar lafar gwlad am yr adar, e.e y Creyr Glas, neu'r Clegar Glas neu'r Garran yn dri enw a ddefnyddir yng ngefn gwlad am yr un aderyn.
Cafwyd enghreifftiau lu o'r cyfoeth yma. Cafwyd noson ddifyr yng nghwmni y siaradwr diddorol a rhugl, sydd a gymaint o ffeithiau byd natur ar flaen ei dafod.
Diolchwyd iddo gan Ruth Astley.
Mis Mawrth, gwahoddwyd Kingsley George o Dolfor i siarad gyda'r gr诺p. Adroddodd wrthynt, gan ddangos sleidiau, sut yr aethont ati i weddnewid eu cartref, gan greu gerddi a llwybrau diddorol drwy aceri o'r tir yng Nghwm Weeg, Dolfor. Maent wedi adeiladu pontydd bach i fynd o un rhan i'r hail ac erbyn hyn maent hyd yn oed wedi creu "grotto" diddorol iawn.
Mae'n siwr fydd Clwb Garddio Caersws yn trefnu noson allan yn yr haf i ymweld a'r lle bendigedig.
|