"Y mae'n siwr o fod yn hysbys i'r rhan fwyaf erbyn hyn bod Ysgol Llangurig yn cau ar ddiwedd Tymor yr Haf. Er mwyn rhoi cyfle i'r oll cyn-ddisgybion a ddymunai fynd cynhaliwyd Aduniad yn yr Ysgol a'r tir o'i chwmpas Nos Wener yr unfed -ar-ddeg o Orffennaf.
Yr oedd Mr. Ernie Jones, Mrs. Diane Hand, y Llywodraethwyr ac eraill wedi darparu Arddangosfa ardderchog ac yr oedd fy nghyd-newyddiadurwyr Steve Jones o 成人论坛 Cymru a Tegwyn Roberts, Ffotograffydd o Faldwyn sydd yn awr yn byw ym Mon yn bresennol a buaswn yn barnu yn ol yr holl ffilmio yr oedd Steve yn ei wneud y byddai rhaglen gyfan ar Ysgol Llangurig ar deledu 成人论坛 Cymru cyn bo hir.
Roedwn yno fel priod un o gyn-ddisgyblion yr ysgol . Yr oedd Joan wrth ei bodd. Yr oedd lluniau o'r teulu i gyd yno - beth bynnag dair cenhedlaeth ohonynt. Yr oedd gen i ddiddordeb mawr yn y lluniau ohoni hi a'i dau frawd - David a Michael - yn blant. Gan bod yr Ysgol yn cau yr oedd profiadau fel hyn yn hanfodol i'r cyn-ddisgyblion gan ei fod yn cwblhau'r profiad o fod yn gyn-ddisgybl.
Yn hwyrnosau y Pum Degau yr oedd y diweddar Daniel Davies, Dolgoch, Talerddig wrth ei fodd yn siarad am feirdd a fyddai yn cwrdd yn achlysurol mewn Eisteddfodau ac Ymrysonau o gwmpas yr ardal. Weithiau byddai criw ohonynt yn treulio oriau diri yn eistedd yn y car yn barddoni tan oriau man y bore. Yn ogystal a Ritchie Brown, Glanbidno yr oedd yno wr ifanc oedd yn Brifathro yn Ysgol Llangurig - Gwilym Rhys Roberts oedd ei enw - ac yn ogystal a bod yn Brifathro ac yn fardd yr oedd ganddo glamp o fotobeic - ac yn fwy na hynny yr oedd ef a Mrs. Roberts wedi bod yn yr Eidal ar ei gefn - a'r Gaeaf canlynol daethant i Ysgoldy Talerddig i ddweud yr hanes. Cofiaf amdanynt yn dweud hanes Twr Pisa, Turin, Y Fatican a'r llefydd eraill lle buont ar y Cyfandir.
Yr oedd gennyf ddigon o bobl i gael sgwrs efo nhw - yn berthynasau a bobl sydd wedi tyfu i fod yn gyfeillion dros y blynyddoedd.
Yr oedd yn noson hamddenol iawn.Cafwyd bwffe a arlwywyd gan Lisa a'i "giang" o Gaersws.
Ar ol bwyta canodd Mr. Jones y gloch a bu hynny yn arwydd bod y cyflwyniadau i Mrs Hand, yr athrawes babanod, i Mrs. Dilys Mills - cogyddes yn yr ysgol 42 o flynyddoedd - ac i Mr. Jones ei hunan.
Wedyn tro Tecs oedd hi. Yr oedd wedi dod o hyd i ysgol-risiau yn rhywle. Dringodd i'w phen a dechreuodd roi cyfarwyddiadau i'r dorf lle i sefyll er mwyn i bawb gael tynnu ei lun. Fy swyddogaeth i oedd dal yr ysgol yn llonydd i Tecs. Cyn gynted ac yr oedd wedi gorffen efo'r lluniau digwyddodd dau beth - daeth y gwybed bach allan a dechreuodd fwrw glaw ac yn fuan iawn yr oedd Bariau y "Blue Bell" a'r "Black Lion" yn llawn gyda'r sgyrsiau a'r atgofion melys yn dal i lifo. Dyna pryd mae perthynasau a chyfeillion yn dod yn handi ynte. "
Diolch i Alun Philips am yr erthygl a'r lluniau
|