Pleser ydy cael croesawu Lorraine Stokes i'n plith, fel Trefnydd Sir Clybiau Ffermwyr leuanc Maldwyn.
Mae Lorraine yn ferch i ffermwr o Swydd Henffordd ac wedi diddori yng Nghlybiau Ffermwyr leuanc ers yn ifanc lawn, ac yn aelod o'r Clwb Ileol yn ei hardal.
Dechreuodd ei swydd ddechrau Chwefror ac mae wedi cael ei phlesio yn fawr gan y croeso twymgalon mae wedi ei dderbyn ers iddi ddod i'r Sir, sydd yn gwneud ei gwaith yn hynod o bleserus.
Mae'n edrych ymlaen nawr at y gweithgareddau sydd ar ddigwydd ym Maldwyn, yn arbennig y Rali yn Glanmiheli, Ceri, Dydd Sadwrn, Mai 22. Mae aelodau'r Sir wedi bod yn gweithio'n galed lawn i drefnu gweithgareddau pan nad oedd Trefnydd swyddogol ganddynt, ac mae Lorraine yn edrych mlaen i gadw'r safon a'r brwdfrydedd i fynd yn y dyfodol.
Mae Lorraine yn gweithio allan o'r swyddfa yn Y Drenewydd.
Croeso mawr iawn i chi i'n plith Lorraine.
|