Gwahoddwyd holl ysgolion dalgylch Y Drcnewydd i fynychu ac yn arbennig plant bach a'u rhieni. Daeth nifer o gylchoedd meithrin a gofalwyr plant i'r achlysur. Roadd Brenda Jones swyddog datblygu TWF o Maesllymystym Y Foel yn hapus iawn gyda'r ymateb ac yn falch i weld y plant a'u rhieni yn ymateb mor dda. Meddai hi, "Roedd plant iaith gyntaf a'r plant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith yn mwynhau cymryd rhan yn y caneuon symud gyda myfyrwyr Coleg Powys, - a fu wrthi yn ymarfer y caneuon Cymraeg er nad oedd y mwyafrif ohonynt yn siarad yr iaith, - ac yn ymateb yn dda i gymeriadau sioe Ribidires S4C." "Roedd y storiau a gyflwynwyd gan Gwyneth Vaughan Lyfrgell y Cyngor Sir yn apelio'n fawr a phawb wadi mwynhau pnawn difyr iawn." "Pwrpas yr achlysur oedd codi ymwybyddiaeth rhieni a gwnaed hyn mewa modd sydd wedi ennyn plant a rhieni i ystyried defnyddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol". Mae Brenda yn annog darllenwyr y Seren sydd a diddorddeb i gysylltu 芒 hi er mwyn iddi ddod i sgwrsio gyda rhieni yr eich ardal i ddangos manteision dwyieithrwydd o safbwynt gwaith, cyfleon cymdeithasol diwylliannol a gwella sgiliau yr unigolyn.
|