Llongyfarchiadau cynnes i'r Prifardd Penri Roberts ar gael ei benodi yn Gofiadur Yr Orsedd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cafodd Penri ei benodi yn Gofiadur gan fwrdd Yr Orsedd mewn cyfarfod o'r Bwrdd, Dydd Sadwrn, lonawr 30ain yn Aberystwyth.
Mae Penri yn olynnydd i'r Prifardd John Gwilym Jones a fu'n gofiadur am rai blynyddoedd.
Cafodd Y Prifardd T. James Jones, Jim Parc Nest, ei ethol yn Archdderwydd newydd Yr Orsedd yn yr un cyfarfod.
Swydd weinyddol yw prif waith Y Cofiadur ynghyd a rhai dyletswyddau seremoniol yn ystod y Cyhoeddi ac yn ystod yr Eisteddfodau - seremoniau Y Coroni, Y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio.
Bydd Penri yn cael ei urddo'n Gofiadur yn ystod Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar y 3ydd o Orffennaf eleni.
"Dwi'n ei ystyried hi'n fraint ac yn anrhydedd i gael gwasanaethu'r Orsedd fel Cofiadur!" oedd geiriau Penri yr wythnos yma."
"Yn sicr bydd rhaid imi ddysgu llawer am weithrediadau Bwrdd yr Orsedd, a hynny mewn cyfnod cymharol fyr.
"Diolch i'r drefn bydd John Gwilym with law i'm tywys ar hyd y llwybrau hyn!"
Mae'n siwr y bydd Penri yn llenwi'r sgidiau mawrion ac yn camu'r llwybrau hyn heb ddim trafferth.
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau'r Seren.
|