Yn "Rhaglen y Dydd" Eisteddfod Powys Llanidloes a'r Cylch 1977 mae Gwilym Rhys yn cyffelybu Eisteddfod Powys i frenhines;
"Hoywaf frenhines Powys,
Nawdd i'n Il锚n sydd yn ei llys ...,"
meddai ar ddechrau ei Gywydd Croeso. Yn y pennill olaf y mae'n gwahodd eisteddfodwyr a chefnogwyr yr eisteddfod i lys y frenhines;
"Dewch, da chwi, i noddi'n hiaith,
Ac i hybu ei gobaith.
Yn lluoedd dewch yn Ilawen
O bob sir i Bowys hen,
Rhown i'n hannwyl frenhines
Ddi-ango' groeso Ilawn gwres."
Dyna'n dymuniad ninnau, y rhai ohonom sydd wedi cymryd at y gwaith o baratoi ar gyfer croesawu'r frenhines unwaith eto i Lanidloes a'r Cylch.
Dymunwn roi croeso 'brenhinol' iddi, ac i chwithau i gyd, ar Hydref 22ain a'r 23ain 2010.
Wedi i Gyngor y Dref benderfynu gwahodd yr Eisteddfod i'r dref, trefnodd y Maer, Y Cynghorydd David Charles Jones, Gyfarfod Cyhoeddus i weld beth fyddai ymateb y cyhoedd.
Roedd yr ymateb yn ffafriol, fel y disgwyliai, ac aed ati ar unwaith i sefydlu Pwyllgor Gwaith.
Mae'r Ganolfan Gymdeithasol wedi ail-agor ar 么l cyfnod hir o fod ar gau. Mae gr诺p o Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am ei rhedeg yn awr, a thrwy eu cydweithrediad hwy, bydd y Ganolfan yn gartref clyd a phwrpasol i'r eisteddfod.
Bydd Arddangosfa Celf a Chrefft i'w gweld yng Nghanolfan Gelf Minerva, heb fod ymhell o'r Ganolfan.
Mae'r gwaith ar y gweill yn barod. Mae'r pwyllgorau wedi cyfarfod ac wedi cyflwyno braslun o'u rhaglen i'r Pwyllgor Gwaith. Etholwyd Edwin O. Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Margaret Jones a Susan Williams yn Ysgrifenyddion Cyffredinol a Keith Smithies yn Drysorydd. Bydd Cadeiryddion, Is-gadeiryddion ac Ysgrifenyddion pob un o'r gwahanol bwyllgorau yn aelodau o'r Pwyllgor Gwaith.
Yr orchwyl gyntaf fydd trefnu Cyhoeddi'r Eisteddfod, i'w gynnal Ddydd Sadwrn, Hydref 17eg, 2009. Edrychwn ymlaen at yr achlysur hwnnw, a hyfryd fydd cael eich croesawu at Feini'r Orsedd yn Victoria Avenue, with y cae peldroed yn y dref. Mae'r trefniadau ar gyfer y Cyhoeddi yn weddol gyflawn, a diolch i aelodau Pwyllgor yr Orsedd, a'r Pwyllgor Maes a Threfn am wneud eu gwaith mor brydlon.
Os yw'r brwdfrydedd ddangoswyd yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor Gwaith yn arw Iwyddiant, yna, fe fydd yma eisteddfod i'w chofio. Rydym yn ffodus lawn o gael yn ei nifer o bobl sydd yn eisteddfodwyr profiadol, a bydd eu harbenigedd yn gaffaeliad mawr i ni.