"Ar 么l misoedd o ymarfer - cerdded milltiroedd a chario pecynnau trwm, daeth yr awr i adael am Patagonia. Pwrpas y daith gerdded ym Mharc Cenedlaethol Los Glacierers oedd codi arian i'r elusen MENCAP.
Daeth 38 o gerddwyr at eu gilydd ym Maeas Awyr Gatwick. Dyma'r tro cyntaf i bawb ohonom gyfarfod a'n gilydd. Yno hefyd oedd 4 aelod o'r cwmni Across the Divide oedd wedi gwneud y trefniadau - 2 weinyddwr a 2 feddyg!
Mae'n daith hirfaeth i'r Arianin; Gatwick i Madrid, Madrid i Buenos Aires ac yna Buenos Aires i El Calefate. Ond, nid dyna ddiwedd y daith oherwydd iddi gymeryd 3 awr arall mewn bws i gyrraedd y man cychwyn yn El Chalten. 39 awr o'r Drenewydd i El Chalten.
Buom yn cerdded i fyny at 10 milltir y dydd. O'r cychwyn roedd rhaid dringo dros dir carregog a sylwi ar goed a phlanhigion gwahanol (a rhai nid mor wahanol; mae llwyn o'r enw calafate yn gyffredin iawn - yr un planhigyn a'r berberis a welir yn ein gerddi). Y goeden mwya cyffredin o bell ffordd yw'r Ffawydd Ddeheuol. Mae'n debyg i'n Ffawydd ni ond fod y dail yn llai.
Bore digon hamddenol felly ond roedd pethau gwaeth i ddod! Wrth i ni ddringo at 么l cinio, dyma ddod at yr eira!
Er fod yr eira yn gwella'r olygfa, roedd hefyd yn ein atgoffa ei bod yn oer! Nid yw'n llawer o sbort i wersylla yn oerni'r gaeaf ond dyna fu raid! Diolch byth am ddillad cynnes a sach gysgu dda.
Gwaethygodd y tywydd ar yr ail ddiwrnod. O'r herwydd, welsom ni braidd dim o'r olygfa! Wrth lwc roedd yr awyr yn glir ar y trydydd diwrnod ac fe gawsom gyfle i fwynhau'r olygfa fendigedig. Mynyddoedd mawr, cadarn, rhewlifoedd ac wrth gwrs y bywyd gwyllt. Dangosodd Iolo sawl Condor i ni.
Er eu bod yn uchel iawn i fyny roedd yn hawdd deall eu bod yn adar anferth. Dyma hefyd diriogaeth y Puma. Welsom ni mo'r un ond gwelwyd ei olion lawer gwaith. Pan oedd y tail yn stemio, roedd y Puma wedi bod yn yr ardal yn ddiweddar iawn!
Heddiw, fe welsom ni gopa mynydd Fiztroy am y tro cyntaf. Am fynydd anferth! Enwyd y mynydd ar ol y Capten Fitzroy aeth a Charles Darwin ar ei fordaith enwog ar y Beagle. Chalten oedd yr enw brodorol ar y mynydd ond gan fod y llwyth Tewhleches yn rhoi'r un enw i bob mynydd anferth, penderfynwyd rhoi gwahanol enw i bob clogwyn.
Mae dwr yr afonydd a'r llynoedd yn las - effaith y rhewlifoedd. Yn wir mae'r rhewlifoedd yn las fel arfer ond gan fod 'na eira newydd, welsom ni ddim o'r lliw glas ar ei orau.
Crested Cara Cara, Rufus Necked Sparrow, Condor, Cnocell y Coed Magellanic - dyma rai o'r adar hyfryd i ni eu gweld. Heblaw am y Ffawydd Ddeheuol, gwelsom nifer o blanhigion hynod yr olwg ond diethir i ni. Yr uchafbwynt wrth gwrs oedd y golygfeydd gogoneddus a'r cwmni hwyliog. Ni chafwyd un anaf; ni fu llawer a gwyno ond ar ben y cyfan, cawsom lawer o hwyl.
Ar 么l y cerdded cawsom ryw awr yng ngholeg Camwy, Y Gaiman. Pleser oedd cael cyfarfod unwaith eto ag Eluned Gonzales a'i chwaer Tegid. Pleser hefyd oedd siarad a Maer y Gaiman sy'n rhygl yn y Gymraeg er mai Archentwr ydyw. Yn anffodus bu raid newid ein trefniadau a gadael Trelew yn gynnar. Chawsom ni ddim cyfle i fynd i'r Eisteddfod; y tro nesa 'falle!
Mae Buenos Aires yn ddinas fawr brysur. Er fod yr amser yn brin cawsom gyfle i weld rhai o'r golygfeydd. Y Boca (tim peldroed enwog), stryd liwgar Caminita, yr Eglwys Gadeiriol, gerddi, cof-golofnau di-ri ac wrth gwrs rhaid oedd siopa yn Stryd Florida!
Profiad fy mywyd mae'n siwr; mynyddoedd ysblennydd, bywyd gwyllt diddorol ac yn goron ar y cyfan cwmni difyr iawn a chyfeillion newydd.
Codais tua 拢3,500 at elusen MENCAP. Nid yw'n rhy hwyr i gyfrannu! Mae'n debyg i'r criw i gyd godi dros 拢140,000 at ar achos clodwiw."