成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Delma Thomas Deugain mlynedd mewn addysg
Awst 2007
Mae Delma Thomas yn ymddeol ar ddiwedd y tymor ar 么l deugain mlynedd yn y byd addysg.

Ganwyd Delma ym mhlwyf Cilmaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin y ferch ieuengaf i Ben a Phoebe Thomas. Pan yn bedair oed symudodd y teulu rhyw filltir ochr arall i'r Afon Taf i bentref bach Glandwr yn Sir Benfro, wrth droed Mynyddoedd y Preseli. Cafodd ei haddysg cynradd yn ysgol Glandwr ac yna aeth ymlaen i gael ei haddysg Uwchradd i Ysgol y Preseli. Roedd Ysgol y Preseli yn ysgol newydd sbon y pryd hynny a Delma a'i ffrindiau oedd y disgyblion cyntaf i fynd drwy'r ysgol.

Cafodd ei dylanwadu gan athrawon arbennig fel Desmond Healy ac Alun Tegryn Davies. James Nicholas oedd y prifathro ar y pryd ac fe fu yntau hefyd yn ddylanwad mawr arni. Ar 么l gadael Ysgol y Preseli aeth ymlaen i Goleg Addysg Abertawe i dderbyn hyfforddiant i fod yn athrawes. Mati Rees ac Emyr Jones oedd rhai o'r darlithwyr a adawodd argraff ar ei bywyd.

Dechreuodd ei gyrfa ym Maldwyn yn 1967 pan gafodd ei hapwyntio yn athrawes yn Ysgol Clatter. Bu yn dysgu yno am bedair blynedd o dan ofalaeth y brifathrawes Elsie Morgan. Pan yng Nghlatter datblygodd ei diddordeb mewn gweithgareddau yn ymwneud ag Urdd Gobaith Cymru ac fe fu yn ysgrifenyddes Cylch Bro Ddyfi am tua pymtheng mlynedd. Yn 1971 symudodd Delma i Ysgol Caersws lle bu'n dysgu am bedair blynedd ar bymtheg.

Yn nechrau'r nawdegau newidiodd gwrs ei gyrfa ac fe ymunodd 芒 th卯m Athrawon Bro Powys. Dysgu Cymraeg fel ail iaith wedyn am ddwy flynedd ar bymtheg mewn gwahanol ysgolion yng Ngogledd Powys.

Nid mewn dosbarthiadau yn yr ysgol yn unig y mae Delma wedi bod yn weithgar. Dros y blynyddoedd, bu yn arweinydd brwdfrydig y Clwb Ieuenctid yn y pentref. Bu'n cynnal dosbarthiadau nos yn dysgu Cymraeg i oedolion yng Nghaersws a Llanidloes am nifer o flynyddoedd. Bu hefyd yn Swyddog Datblygu rhan amser i CYD ym Maldwyn. Ar hyn o bryd Delma ydy ysgrifenyddes Rhanbarth Maldwyn o Urdd Gobaith Cymru yn trefnu pum Eisteddfod bob blwyddyn ar gyfer yr ieuenctid.

Mae hefyd yn gwneud llawer o waith gwirfoddol yn y pentref ac yn aelod brwdfrydig o nifer o sefydliadau yn y pentref.

Un o uchafbwyntiau ei gyrfa fel athrawes oedd cael ei hanrhydeddu gan y Teaching Awards Council a chael tystysgrif anrhydedd wedi ei gyflwyno iddi gan Jane Davidson o'r Cynulliad mewn seremoni arbennig yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddwy flynedd yn 么l.

Yn 么l Delma y ddau beth mwya' pwysig yn ei bywyd na all ddychmygu byw hebddynt ydy'r iaith Gymraeg a Cherddoriaeth. Wel fe fydd amser nawr i fwynhau llawer mwy o'r pethau hyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy