"A dyma'r bore wedi cyrraedd yn gynnar, 芒'r hen ddisgwyl ym m锚r ein hesgyrn yn troi'n gyffro aflonydd yn ysu am y cam cyntaf. Roedd popeth yn barod 芒'r ddwy actores, Christine Pritchard ac Olwen Rees fel dwy golomen ddof yn ymlacio'n naturiol osgeiddig i'w brecwast - fel hyn mae hi arnynt cyn i'r 'lleni'agor tybed? Roedd y ddwy yn bictiwr o harddwch a'u gwawr 'l锚d-bac' yn fy nal innau yn 么l rhag rhuthro am y bwyd yn fy nghyffro prysur, er bod digon o amser wrth law.
Dyma binacl yr holl ymarfer a'r paratoi wedi cyrraedd, y sachau teithio yn llawn, a'r ddwy golomen o Gaernarfon yn eu lifrau pwrpasol am y daith o'n blaenau. Roedd Olwen wedi gwisgo trowsus du tyn a gyrrhaeddai dri-chwarter ffordd i lawr foliau'i choesau, ac yn gynharach fe lawnsiodd ei hun yn ddramatig ar lwyfan y gegin gyda'r geiriau:
"Max Wall lives on!"
Unwaith y bu i ni, rhyngddom, osod sebadasus Christine yn daclus yn eu lle o dan lygad profiadol Penri, a'r awr yn dri munud wedi wyth, i ffwrdd a ni. Aethom ni ddim ymhell am fod Joy a Wyn Richards yno'n driw iawn, yn aros i'n cofleidio. Mae cefnogaeth cyfeillion yn hwb amhrisiadwy, onid yw? Ar ben yr allt gyntaf, pwy oedd yna yn ein haros ond y ddihafal Marian Wilson - un arall driw a hael, fel y gwyddoch. Wedi'r swsus blasus rhyngddom i gyd, i ffwrdd a ni 芒 chamau bras am y rhan gyntaf o'r ffordd Rufeinig.
Roedd yn fore braf a'r awel yn sychu unrhyw addewid o chwys. Y cwmni'n llon er fod y sgwrs yn herciog ar y cychwyn, gan i bawb ohonom fod yn rhag-ddyfalu yr hynt o'n blaenau. Heibio i Lwyn y Brain, yr Esgair a Phen Rhiw ac ymlaen i gyfarch teulu bach Y Waen yn hyfryd, hafaidd ar ben y drws. Cyn hir dyma ddechrau dringo'r llechweddau o Allt y Ffynnon am yr Observatory a dim ond eiliadau i edrych yn 么l ac i lawr tuag at frasder dyffryn Hafren yn ei ysblennydd, cyn pwyso ymlaen am Ffr诺d Wen. Roedd y golygfeydd hyn yn anhygoel, 芒 phrydferthwch llwydaidd y waen a'r ffridd yn ein cyfareddu. Yma ac acw gwelid gwrlid o Blu'r Gweynydd fel eira'r haf yn y pellter.
Nid tirwedd hawdd i'w gerdded yw gwaen a chors, rhaid yw tramwyo'n ofalus gan lygadu pob twmpath a ff么s rhag niweidio'r fferau. Yng nghesail y bryniau islaw, wele Lyn Gwgia yn deffro'n araf o'i drwmgwsg, gan agor un llygad arnom, ddieithriaid y brwyn a'r hesg. Oedd, mi roedd llwybr clir ar y map ond, hyd yma, nid oedd hwn wedi ei drosglwyddo i'r tir, ac wedi pasio'r Heth (wedi ei sillafu: The Heath) gorfu i ni newid ein trywydd i osgoi melinau gwynt Mynydd Clogau, gan gymeryd yr hen ffordd i lawr am orllewin yr Adfa ac yna Cefn Coch.
Wedi seibiant byr i 'spectio'r' traed a blasu'r brechdanau, efallai heb fod yn hollol yn y drefn yna, dyma ddilyn y trywydd yn 么l am y ffordd Rufeinig, tros yr afon Rhiw ac ymlaen i fynny hen, hen ffordd drwy'r coed a'r mieri am Gapel Horeb, sydd bellach yn d欧 annedd, ac yntau yn rhyw swil warchod y fynwent gerllaw.
Cyn hir, dyma basio Pant y Milwyr, ar fynydd Llety Gwilym uwch Llety'r Milwyr ac ymlaen am fynydd Waun Fawr. Roedd enwau'r hen ffermydd ar hyd y daith - enwau fel "Pant y Milwyr" - yn goglais ein chwilfrydedd i wybod mwy am hanes y gwahanol lefydd ac yn chwarae ar y dychymyg wrth i ni gerdded. Ond, nid does amser heddiw, rhaid taro `mlaen.
Roedd Olwen a Christine yn gwmni ardderchog ac yn ein codi i hwyl. `Roedd yn ddiddorol iawn i mi gael gwrando ar sgwrs y 'Tri Thesbiad' yn trin a thrafod drama a nodweddion y gelfyddyd ryfedd honno. Mi roedd y llwybr yn esgyn a disgyn gryn dipyn, a rhaid oedd cael hoe fach hwnt ac yma i atgyfnerthu'r cyhyrau ac i esmwythau y cymalau. Roedd gweld Moel Bentyrch mor agos yn ein cysuro ein bod bron a chyrraedd, ond rhyw gysur digon gwag oedd hwn gan fod yn rhaid i ni eto ddal i fynd am lawer mwy nag y tybiem. Roedd y ddwy golomen yn driw iawn i'r dasg, er i mi unwaith ganfod Olwen ymysg y chwerthin a'r hwyl, yn rhyw 'edrych dros y bryniau pell..' am waredigaeth nirfanaidd. Efallai mai fi oedd yn dychmygu hynny, gan fod croeso'r 'Cian' yn rhyw ymbellhau oddiwrthym i gyd gyda pob mynydd a bryn rhithiol a ymddangosai o'r newydd, gan nad oeddynt, yn siwr i chi, ar fy map i!
Dyma ddod at gi芒t fynydd ar un o lecynnau uchaf y daith a sylwi ar glamp o oen yn sefyllian yn rhy llonydd o lawer yn ei hymyl. Onid yw'n ddiddorol fel mae un anifail, sef dyn y tro hwn, yn canfod rhyw anhwylder mewn anifail arall ar amrantiad o edrychiad. `Roedd rhywbeth yn osgo ei gorff siapus, rhywbeth am flaenau ei draed oedd fymryn yn rhy agos i'w gilydd yn bradychu rhyw grwmannu yn y cefn a rhyw wendid di-droi'n 么l. Fe arhosith y wefr angeuol honno o'r oen unig yma gyda ni am amser, rwy'n siwr. A dyma gwpled y bardd o Lanrhaeadr yn ein plith:
'Yr oen ar dir y brynie, a'i rudd
Mor llonydd a'r lle.'
Rhaid oedd camu ymlaen, a dyna i raddau oedd felltith y daith hir hon, 'doedd yna ddim digon o amser i sefyllian i ddrachtio hud y ffriddoedd pell a miwsig cariadus y nentydd cudd.
Cyn hir, a ninnau wedi ail suddo mewn sgwrs, roeddem yn disgyn i lawr tuag at y ffordd sy'n arwain i Gwm Nant yr Eira a dyma'r cerddediad yn sionci fel y daethom i lawr y dyffryn. Buan y collwyd y sioncrwydd ar y filltir olaf - y filltir hwya ohonynt i gyd - a da oedd canfod y bont bren a'r addewid o'r llwybr tua Llangadfan. Ond, i ba gyfeiriad oedd Llangadfan? Diolch i ni gymeryd y trywydd anghywir ac i ni 'landio' wrth ddrws ffrynt T欧 Cerrig a chael sgwrs gyda un arall o'n caredigion, Mrs Dwynwen Jones. Mai hi wedi cyfarwyddo amal i un yn yr ardal, yn enwedig i Ganu Penillion. Ar ol ei chyfarwyddiadau hi, mi roeddem ar y llathenni olaf ac mewn dim yn cyfarfod gyda Julie wrth y bont cyn llusgo'r corff i fynny'n ddigon lludiedig i'r Cann Offis.
Wedi pryd o fwyd a pheint i ladd y syched, rhaid oedd ffarwelio 芒 Christine ac Olwen, a rhoi i ddwylo saff Julie ei ffrindiau o'i dyddiau cynnar yng Nghaernarfon. Cant siarad 'Cofi' a hel atgofion ar y ffordd yn 么l i Gaersws. Bath a gwely fydd eu hanes hwythau heno, rwy'n siwr. Fydd yna ddim sgwrsio tan berfeddion - er mai dawn a greddf y rhai hyn yn gallu bod yn drech nag unrhyw flinder. Maent wedi addo'n frwdfrydig ddod yn 么l i roi noson o adloniant. Hei lwc ynte, yn enwedig am eich bod bron a marw i gael gwybod beth yn union yw 'sebadasus' Christine!"
Mwy i ddod mis nesa'