Cafwyd lansiad swyddogol i Gystadleuaeth Calor, Pentref y Flwyddyn ym Mhowys 2003 gan PAVO sydd yn gyfrifol am drefnu'r gystadleuaeth yn lleol, yn gynnar yn mis Mawrth, ac maent yn awr yn derbyn ceisiadau.
Nod y gystadleuaeth hon sydd yn seiliedig yn y gymuned, yw cydnabod a dathlu nerth ymdrechion a chyfraniadau cymunedol ymysg pentrefi ym Mhowys, ac yn hyn o beth mae'r gystadleuaeth wedi datblygu o'r Gystadleuaeth Pentref Taclusaf.
Gellir ystyried y gystadleuaeth yn rhan o'r broses ddatblygu cymunedol, ac yn declyn i helpu cymunedau i gynnal, datblygu ac adfywhau bywyd gwledig. Fe fydd y beirniad yn chwilio am gymunedau pentrefol sydd yn sefydlog, yn fodlon ymateb i ddatblygiadau'r dyfodol, ac yn barod i fod o gymorth, ac sydd, er gwaethaf eu maint, wedi gwneud y gorau o gyfleon lleol er cynnal a gwella ansawdd bywyd eu trigolion. Yn ei hanfod, mae'r gystadleuaeth yn chwilio am bentrefi sydd yr ymwneud 芒 phobi.
Mae'r gystadleuaeth yn canolbwyntio ar agweddau pwysig bywyd pentref, sydd yr amlwg yng nghategoriau'r gystadleuaeth, sef cymuned, busnes, pobl ifanc, pobl hyn, yr amgylchedd a thechnoleg gwybodaeth. Trwy ganolbwyntio ar gategoriau, fe fydd y broses yn gallu gwobrwyo pentrefi am gategor茂au neilltuol, yn ogystal 芒'u helpu i adnabod bylchau ar gyfer gwaith datblygu yn y dyfodol.
Gellir derbyn ceisiadau gan grwpiau lleol, cynghorau cymuned, cymdeithasau hamdden neu bwyllgorau neuaddau pentref. Fe fydd eich pentref yn elwa, boed yn ennill neu'n colli, oherwydd y profiadau amrywiol sy'n deillio o gystadlu, gan gynnwys:
- Ennill dealltwriaeth o'r hyn sydd yn llwyddiannus yr y pentref, a lle efallai y bydd angen newid perthnasol
- Defnyddio amrywiaeth o sgiliau ac egni lleol
- Annog y gymuned i gydweithio ac i godi ysbryd y gymuned
- Rhannu balchder a chyraeddiadau gyda phentrefi eraill
- Rhannu ymarfer da, a syniadau rewydd o bentrefi eraill
- Ennill dealltwriaeth o'r amrediad o wasanaethau a gynigir gan PAVO Fe fydd y pentref buddugol ym Mhowys yn ennill y teitl urddasol a thystysgrif yn ogystal a 拢500 ac yn cael el enwebu i gynrychioli Powys yn y gystadleuaeth Pentref Cenedlaethol y Flwyddyn. Mae PAVO yr ceisio denu nawdd ychwanegol i ennillwyr y categoriau gwahanol.
Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 16eg Mai, a cheir ffurflenni cais (copi caled neu ar ddisg) o bob un o swyddfeydd PAVO ac o enquiries@pavo.org.uk
Os hoffech drafod eich cais gydag un o'r Swyddogion Datblygu, cysylltwch 芒 Hayley Price yn Swyddfa Aberhonddu 01874 622631 neu drwy ebost hayley@pavo.org.uk