Enillwyd Coron Eisteddfod Powys Y Bala a
Phenllyn 2005 gan Sioned Elin Hughes, merch Y Parch. a Mrs. Edwin O. Hughes. Mae Sioned ar hyn o bryd yn astudio Cyfraith a Chriminoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac y mae llenydda yn Gymraeg yn gyfle i ymlacio. Gofynnwyd i'r cystadleuwyr ysgrifennu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 20,000 o eiriau. Thema cyfrol Sioned oedd 'Gwylio' a chanmolodd y beirniad, Sian Northey, y ffordd gelfydd yr oedd Sioned wedi llunio ac adeiladu'r gwahanol weithiau creadigol yn y gyfrol, gan ddweud ei bod yn llwyr deilyngu'r goron. Rhoddwyd y goron gan deulu Carndochan, Llanuwchlyn er cof am y diweddar Elin Mair Jones. Roedd Elin Mair wedi bod yn flaenllaw iawn ym mywyd diwylliannol Penllyn. Yr oedd ganddi ddiddordeb brwd mewn llenyddiaeth ac yn y bywyd Celtaidd, ac yr oedd yn delynores ddawnus iawn. Adlewyrchir y diddordebau hyn yng ngwneuthuriad y goron a luniwyd mor gelfydd gan John Price, Machynlleth. Rhoddwyd y wobr ariannol gan Ymddiriedolaeth y Dr. D. Tecwyn Lloyd. Arweiniwyd Seremoni'r Coroni gan y Derwydd Gweinyddol, Talog. Canwyd C芒n y Coroni gan Ap Meirion (Tegwyn Jones, Machynlleth) a chyfarchwyd y llenor gan Elfyn (Elfyn Pritchard) ac Elwyn Hesgin (Y Prifardd Elwyn Edwards). Roedd y seremoni'n effeithiol dros ben, a'r Ddawns Flodau yn hyfryd.
Llongyfarchiadau i Sioned ar ei llwyddiant, a phob hwyl ar yr ysgrifennu i'r dyfodol.
|