Agorwyd tymor 2006-2007 nos Fercher, Medi 20 yn y Capel Coffa, Milford Road pan ddaeth nifer dda at ei gilydd a chafwyd cyfarfod hwylus iawn. Oherwydd fod ein Llywydd, Gwyneth, draw, draw yn China efo Mel, a'n Is-Lywydd Rhian draw, draw yn Brighton efo Lembit, bu rhaid i'r Ysgrifennydd, Nansi, gymeryd yr awenau a Marian, yr Is-Lywydd, yn gwneud y nodiadau!
Croesawyd atom, Tegwen Morris, y Cyfarwyddwr Cenedlaethol a Mim Roberts, Swyddog Datblygu'r Gogledd Orllewin a da oedd gweld y ddwy a chael gair o annogaeth gan Tegwen. Bu Mim wrthi'n brysur yn rhannu'r cardiau Nadolig, y dyddiaduron a phlatiau pen blwydd y Deugain.
Ein g诺r gwadd yn y cyfarfod dechreuol hwn oedd y Prifardd Penri Roberts a fu'n s么n am farddoni ac yn trafod rhai o'i gerddi - y llon a'r lleddf. Roedd yn gyfarfod hwyliog dros ben gyda digon o chwerthin iach a phawb yn mwynhau'r awryglch cartefol yn y capel. Anne Rees draddododd y diolchiadau a gwnaed y te gan Nelian a Laura.
Cyfarfod Hydref
Nos Fercher, Hydref 11 oedd y cyfarfod cyntaf i Ferchd y Wawr y Drenewydd ei drefnu yn eu man cyfarfod newydd ym Mhlas Dolerw. Ein gwraig w芒dd oedd Marian James o'r Trallwm a buom i gyd yn synnu a rhyfeddu at ei gwaith cywrain a'r amrywiaeth o wahanol fathau o waith llaw roedd hi yn ei arddangos. Roedd y rhan helaeth o'i gwaith wedi ennill gwobrau eisteddfodol lu a rhai ohonynt wedi cymryd blynyddoedd lawer i'w cwblhau.
Cyflwynwyd Marian gan ein Llywydd, Gwyneth Mel a diolchwyd iddi gan Pamela. Dysgwraig yw Pamela ac mae ei meistrolaeth o'r Gymraeg yn gl么d mawr iddi ac rydym fel cangen yn ei llongyfarch ac yn falch iawn ohoni.
Gwnaed y te gan Eluned ag Edith- rydym yn falch iawn ohonyn' hwythau hefyd!
Bydd y cyfarfod nesaf yn y CAPEL COFFA, nos Fercher, Tachwedd 8fed am 7.00 o'r gloch pan fydd Ian a Margaret Roberts yn Hel Achau efo ni.
|