Am ei gwaith a'i gwasanaeth i godi arian at ymchwil Leukaemia a hefyd ei gwasanaeth i'r ardal fel arweinydd i Glwb Bro Maldwyn am 20 mlynedd.
Yn sicr mae swm o arian anhygoel wedi ei godi gan gr诺p Leukaemia Canolbarth Cymru a hithau yn Gadeirydd ers ambell flwyddyn.
Maent wedi trefnu pob math o weithgareddau ar hyd a lled Cymru er mwyn codi'r arian a'r cyfanswm wedi cyrraedd 拢250,000. Nid hawdd ydyw cyrraedd targed mor uchel 芒 hyn.
Mae'r ardal gyfan yn ei llongyfarch yn fawr. Fe ddywed Eluned fod y llwyddiant wedi dod o'r cyd-weithio da sydd wedi bod gan y gr诺p i gyd a hefyd y ffaith ei bod yn gwybod fod rhai o'r bobl sy'n diodde' o'r clefyd yma yn cael gwellhad.
Wel, llongyfarchiadau mawr i Eluned a'i chydweithwyr am ei hymdrech arbennig yn helpu'r ymchwil i'r salwch a gobeithio y bydd llawer eto yn elwa o'r ymdrech.
Os ydych eisiau rhywbeth wedi ei wneud, gofynnwch i ddynes brysur. Dyna ddylai fod yn arwyddair i Eluned. Bu'n rhedeg busnes Gwely a Brecwast am flynyddoedd. Cyn hynny roedd yn gweithio fel Cynorthwydd Dosbarth yn Ysgol Cedewain. Yn ogystal 芒'r Gwely a Brecwast bu'n rhedeg busnes arlwyo ar gyfer angladdau. Ar hyn o bryd hi yw Llywydd Sefydliad y Merched, Carno. Mae pawb yn Seren Hafren yn dymuno'n dda iawn i chi, Eluned. Diolch i Mrs Mai Richards am yr addroddiad
|