Cynhaliwyd noson gymdeithasol i ddathlu pen-blwydd Ysgol Llansadwrn yn 150 oed.
Er gwaetha'r tywydd, daeth nifer fawr o gyn-ddisgyblion a ffrindiau'r ysgol ynghyd i fwynhau barbeciw ac adloniant.
Trefnwyd arddangosfa ddiddorol o luniau a oedd yn olrhain hanes yr ysgol.
Derbyniwyd nifer o eitemau ar gyfer yr ocsiwn gan grefftwyr lleol, yn cynnwys print o lun gan Aneurin Jones, Aberteifi i nodi ei gysylltiad teuluol 芒'r ardal.
Cafwyd amrywiaeth o adloniant gan blant yr ysgol, cerddorion lleol ac uchafbwynt y noson oedd gwrando ar ddau emyn traddodiadol gan gyn-ddisgybl sef Lavinia Thomas, enillydd Rhuban Glas Eisteddfod Genedlaethol 1989.
Llywydd y noson oedd y Cynghorydd Tom Theophilus, a chafwyd araith gefnogol iawn ganddo.
Ar ddiwedd noson lwyddiannus dros ben, roedd coffrau'r ysgol wedi elwa o 拢1,450, swm a fydd yn gymorth mawr i sicrhau chwarae teg i bob plentyn o safbwynt adnoddau a chyfleoedd. Diolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd.
Ffarweliwyd 芒 Gwenllian sydd yn trosglwyddo i Ysgol Pantycelyn, ac i Bron a Frances sydd yn mynd i Ysgol Tregib. Diolchwn iddynt am eu cyfraniad i fywyd Ysgol Llansadwrn, a dymunwn bob llwyddiant ac hapusrwydd iddynt yn y dyfodol.
|