Mae hi'n cofio dylanwad Hazel Walford Davies arni yn Aberystwyth, yn enwedig am iddi hi ei chyflwyno i ddramodwyr Americanaidd fel Tennessee Williams, Sam Sheppard a David Mammett. Roedd Hazel Walford Davies yn gwneud ei darlithoedd yn wirioneddol fyw ac un o'r dram芒u sydd wedi gwneud argraff fawr ar Heledd ydy A Streetcar Named Desire. Dylanwad arall arni yn y Coleg oedd Huw Meirion Edwards fu yn ei hannog i ysgrifennu'n greadigol ac un o'r uchafbwyntiau creadigol oedd ysgrifennu geiriau emyn gafodd ei chanu yn ei phriodas, oedd yn brofiad gwefreiddiol, meddai Heledd. Roedd hi'n mwynhau perfformio ac actio a chymryd rhan mewn sioeau cerdd yn y coleg ar ysgol, ond fe wnaeth hynny yn llwyr o'i gwirfodd. Cafodd Heledd ei swydd gyntaf ym myd teledu fel ymchwilydd ar Bacha hi O'ma, swydd oedd yn golygu mynd i chwilio am gyfranwyr i dafarnau a chlybiau a dwyn persw芒d ar bobl hanner meddw a gwaeth i ymddangos ar y rhaglen. Cymysgedd o charm a blackmail meddai hi, oedd yr abwyd gorau. Wedyn bu hi'n gweithio ar raglen Pwy 'Di Pwy'? a dyna pryd cafodd hi gynnig prawf sgrin ar gyfer cyflwyno Uned 5, a dyna lle cafodd hi un o uchafbwyntiau ei gyrfa hyd yn hyn sef taith fythgofiadwy i Lapland i chwilio am Si么n Corn. Mae Heledd wedi gweithio arHeno ac erbyn hyn mae hi'n adnabyddus fel cyflwynwraig ar Wedi 7. Am fwy o straeon difyr cofiwch wylio Crwydro ar S4C ddechrau 2004.
|