Fel arfer, mae'r llun lliwgar wedi ei guddio o dan ddilledyn ac allan o'r golwg (tan fisoedd yr haf beth bynnag), ond fe synnech chi faint o bobol annisgwyl sydd wedi cael tat诺 - pwy sy'n eistedd wrth eich ymyl chi wrth ddarllen Y Lloffwr ar hyn o bryd? Ydych chi wedi gweld cefn eu hysgwydd neu dop eu braich yn ddiweddar?! Mae pobol yr ardal hon fel arfer yn mynd i Gaerfyrddin er mwyn cael tat诺, at 诺r o'r enw Nobby. Mae 70% o'i gwsmeriaid ef yn ferched a'r rhestr aros yn faith iawn. Dim ond rhyw 4 person mae'n gallu gweithio arnynt bob dydd gan ei fod yn cymryd balchder mawr yn ei waith ac yn rhoi o'i orau bob tro. Ond pam bod mwy a mwy o bobol yn dymuno coel tat诺 y dyddiau hyn? Mae'n debyg mai ffasiwn yw'r prif reswm. Gyda ninnau'n byw mewn cymdeithas sy'n rhoi cymaint o fri i'r byd celeb-aidd, mae'n debyg ein bod ni am efelychu eu edrychiad nhw. Mae Nobby wedi cael sawl cwsmer yn gofyn am dat诺 Celtaidd yn ddiweddar, ar 么l gweld yr actor George Clooney, yn y ffilm From Dusk Til Dawn. Mae rhai cwsmeriaid yn gofyn am dat诺s digon gwahanol a bryd hynny mae'n rhaid i Nobby ddefnyddio ei synnwyr cyffredin. Mae e wedi gwrthod rhoi tat诺 si芒p y swastika i un dyn, ac mae'n gwneud yn si诺r ei fod yn cadw at y gyfraith - dim tat诺 i blant o dan 18 oed. Tat诺 Dramor Beth mae'r tat诺 yn golygu mawn gwledydd eraill? Borneo Y tywyllaf yw'r tat诺 ar ferch, y prydferthaf yu gwelir gan gymdeithas. Siberia Mae'r llwythi, hyd heddiw, yn rhoi tat诺 i lawr eu cefn er mwyn gwella poen cefn. Samoa Mae'r tat诺s yn arwydd o allu dwyfol oddi mewn. Maori Hen draddodiad i beintio wynebau cyn mynd i ryfel. Tab诺'r Tat诺 Y man mwyaf poenus : Arennau Lleiaf poenus : Top y fraich (dynion) a'r bronnau (merched) Patrwm mwyaf poblogaidd : Draig a phatrwm Celtaidd Gan : Heledd ap Gwynfor (Prosiect Papurau Bro.) Profiad personol- gallwch ddarllen profiad Si芒n Davies yn rhifyn Mawrth o'r Lloffwr.
|