成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Oliver Cromwell Cromwell yn Nyffryn Tywi
Mai 2006
Bu'r ffordd o Loegr i lawr am Drefynwy a thrwy Dyffryn Tywi am Gaerfyrddin (A40 presennol), yn hwylus i'r Rhufeiniaid, ac i ormeswyr o Loegr a Chymry rhyfelgar fel ei gilydd.
Yr oedd yn fodd i fyddinoedd a brenhinoedd Lloegr dawelu cythrwfl o du'r Cymry yn ogystal 芒 bod yn borth i dawelu Iwerddon yn 么l yr angen. Dyma brif ffordd Harri'r II i Iwerddon, Harri'r IV pan ddaeth i chwilio am Owain Glynd诺r ar fwy nag un achlysur, a'r ffordd y daeth Owain ei hun ar hyd iddi yn nechrau'r 15fed ganrif.

Ond efallai mai'r ymweliad a arhosodd yng nghof neu yn nychymyg y werin, oedd y daith honno gan Oliver Cromwell ym mis Mai 1648. Cromwell, wrth gwrs, oedd dirprwy gynrychiolydd y Senedd yn ei hanghytuno a ffordd y Brenin Si芒r I o godi arian. Dyma ail gyfnod y Rhyfel Cartref rhwng y Frenhiniaeth a'r Senedd. Rhwng 1642 a 1648 profodd cynrychiolwyr y Senedd yn Sir G芒r yn ddigon abl i wynebu cefnogwyr y Brenin.. Ond cymaint oedd pryder y Seneddwyr yn 1648 fel y mynnodd Cromwell ei hun ynghyd 芒'i farchogion deithio i Gastell Penfro.

Canrif y tlodion
Canrif y tlodion oedd y 17eg ganrif. Yr oedd mwy ohonyn nhw na'r byddigions. Yr oedd y Cymry wedi gorfod byw gyda Gw欧r y brenin yn enw byddigions y Sir; Gw欧r fel teulu'r Fychaniaid Gelli Aur. Pan gafodd cynrychiolwyr y Brenin eu trechu yn Nhrefynwy, aeth y Cyrnol Laugharne, Seneddwr rhonc a oedd yn byw yng Nghastell Penfro ar y pryd, i gynorthwyo yn y frwydr honno ond ymhen hir a hwyr, pan sylweddolwyd na ddeuai t芒l digonol o du'r Seneddwyr, ochrodd Gw欧r Castell Penfro gyda'r Brenin.

Taith Cromwell i'r gorllewin
A dyna a ddenodd Cromwell ar ei daith i 'r gorllewin wedi iddo sylweddoli cymaint oedd dylanwad y brenhinwyr yma o Benfro. Ymhell cyn yr ymweliad , chwit chwat a fu teyrngarwch tref Caerfyrddin ond erbyn Mai 1648 roedd pobol y dre a'r pentrefi o gwmpas yn gefnogwyr i'r Brenin. Yr oedd Cromwell wedi penderfynu eisoes sut y dylai'r wlad gael ei rheoli; "nid gan frenhinoedd a chythreuliaid." Pan ddeallodd dau o w欧r Penfro, Poyer a Powell bod Cromwell ar ddod gorchmynnodd Poyer fod pob pont ar draws yr afon Tywi i gael eu dinistrio ac i'r ffyrdd o amgylch gael eu diogelu.

Pan ddaeth Horton, un o brif w欧r byddin Cromwell at bentref Pontargothi gwelodd bod y bont wedi ei chwalu a'r ffyrdd o gwmpas yn cael eu hamddiffyn gan w欧r Poyer. Fe amddiffynnwyd bryn gan y Cymry a phetrusodd Horton rhag ymosod. Ofnwyd Gw欧r y Senedd gan Gymry'r ardal ac er mwyn diogelu eu hunain rhyddhawyd eu gwartheg, gadawsant eu cartrefi gan rhwygo gweithdai'r gofaint a cheisio lloches yn y coedwigoedd. Ataliwyd y fyddin am ychydig ond oherwydd eu cryfder llwyddwyd i gyrraedd a goresgyn Caerfyrddin a'i chadw i fyddin y Senedd. Cyrhaeddwyd Penfro erbyn diwedd mis Mai 1648.

Byr oedd y daith yn y dyffryn. Ond yr hyn sydd yn ffaith neu yn chwedl yn yr hanes yw'r lleoedd y bu Cromwell a'i bum catrawd o w欧r meirch yn llochesu ynddynt. Ymosodwyd ar Fleming, un o'i swyddogion a 100 o w欧r arfog gan y Cymry wrth iddynt chwilio lloches yn Eglwys Llandeilo Fawr a meddiannwyd yr Eglwys gan y Cymry wedi tri neu bedwar diwrnod o ymladd. Lladdwyd Fleming yn yr Eglwys wrth iddo saethu ei hun yn ddamweiniol.

Cromwell a'r Gelli Aur
Hanes sydd wedi ei gofnodi yw ymweliad Cromwell a'r Gelli Aur. Yr oedd y plasdy yn y cyfnod o dan sylw ym meddiant Richard Vaughan, Ail Iarll Carberry, un o w欧r y brenin gan iddo fod yn ymladd gyda lluoedd Siarl I. Pan ddeallwyd bod Cromwell 芒'i fryd ar dalu ymweliad 芒'r Plas, aeth yr Iarll i guddio mewn ffermdy yn Llanfynydd gan adael i'w wraig groesawu'r ymwelydd.

Y mae'n draddodiad ym mhentref Llandybie i Cromwell anfon milwyr i'r Derwydd pan oedd ar drywydd Iarll Carberry yn ddiweddarach. Perthyn i'r un traddodiad y mae'r hanes i Cromwell a'i filwyr aros yn y Plas, Llandybie.

Y tu hwnt i ddyffryn Tywi mae s么n am ffermdy Penpicillion ar gyrion Llansteffan a fu'n lloches i w欧r y Senedd. Yn y t欧^ unwaith yr oedd Beibl Cromwell ac arno'r dyddiad 1654-6. Pa le bynnag y byddai galw am lety, yn yr Eglwys leol y byddid yn arfer cadw'r ceffylau, a dyna a ddigwyddodd yn Llansteffan.

Efallai mai'r cofnod ryfedda yn hanes Cromwell a'r ardal oedd ei ymweliad 芒 Llan Newydd uwchben tref Caerfyrddin. Trodd tuag yno i ymweld 芒'i deulu yn ffermdy Cwmcastell fach. Dywed traddodiad yma mai Oliver Williams oedd ei enw cywir er i lyfrau hanes nodi mai g诺r o Huntington ydoedd. Cydnabyddid yn ardal y ffermdy mai mab ydoedd i Syr Richard Williams a gymerodd yr enw Cromwell wedi i'w ewythr Thomas ap Morgan gael ei ddyrchafu yn Arglwydd Cromwell gan Harri VIII.

Ar diroedd Cwmcastell, mewn cae o'r enw Parcylan, tua hanner milltir o bentre Trefechan crewyd pwll gwarchod. Fe'i gelwir yn Bwll Cromwell am mai oddi yno yr anelai Cromwell a'i w欧r y saethau ar dref Caerfyrddin. Trechwyd y dref a'i throi at ddibenion Gw欧r y Senedd cyn i Cromwell a'i w欧r fynd am Benfro. Bu'r brwydro'n daer wrth geisio ennill Castell Penfro. Ar ei ffordd yno cyfaddefodd Cromwell na allodd ddod o hyd i'r un efail lle gallai adnewyddu eu arfau, felly er mwyn darostwng tref Penfro apeliodd at Bwyllgor Caerfyrddin am help i ddefnyddio ffwrneisi yn y Sir ar gyfer cynhyrchu offer rhyfel.

Troediodd byddin Cromwell yr ardal hon eilwaith yn 1649 ar eu ffordd i Iwerddon ac wrth ddychwelyd ymwelwyd ag Eglwys Llangathen. A fu taith i Gastell Dryslwyn ac ymosodiad ar Carreg Cennen? Beth a ddywed traddodiad am hynny, tybed? Yn ei adroddiad i'r Senedd dywedodd Cromwell am Gymry'r de orllewin, eu bod yn barod i ymladd bob dydd ond eu bod nhw yn dlawd.

"Mae'n rhyfedd i ni gadw'n dynion gyda'i gilydd. Dim ond bara a d诺r sydd ar gael i'n cadw ni ar ein traed. "Piwritan oedd Cromwell a gredai mai wrth ddarllen y Gair y gellid cadw'r hyn a enillwyd gyda'r cleddyf. Erbyn diwedd 1650 pasiwyd Deddf 'Er Taenu a phregethu'r Efengyl' a arweiniodd ymhen amser i'r capeli Anghydffurfiol a adeiladwyd mewn lleoedd diarffordd iawn ar hyd a lled ein gwlad. Ond stori arall yw honno.

Len Richards


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人论坛 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy