Blwyddyn Newydd Dda! Gwenfudd James ydw i, 'rwy'n byw yng Nghaio ers 1960 er yn enedigol o waelod Sir G芒r. Cwrddais 芒 Peris yn 1958 mewn garddwest gyda'r Ffermwyr Ifanc yng nghartref Syr Grismond Phillips, Plas Cwmgwili, wen i yno yn cynorthwyo Brenhines y Sir.
Ganed tair o ferched bach i ni sef Sioned, Sara a Tegwedd Haf, yn aml fydd Peris yn canu'r d么n enwog 'Thank heavens for little girls'. Mae gen i 诺yr Kieran Peris a dwy wyres Sara Mair a Carys Haf.
Yn 1970 pan oedd Sara ein hail ferch fach yn ddwy flwydd oed canfuwyd ei bod yn dioddef o Leukaemia, a'r meddyg yn ysbyty Llandochau yn dweud wrthym faint o fywyd bach oedd ar 么l gan Sara. Rwy'n gallu ei glywed ef nawr yn dweud wrthym fod Leukaemia arni ac yn rhoi llai na blwyddyn iddi fyw. Dychmygwch y sefyllfa wen i gyd fel teulu yn mynd trwyddo yn enwedig wrth weld y flwyddyn newydd yn dod fewn a finnau yn fy ngofid yn meddwl ac ofni'r gwaethaf. Tybed ai'r flwyddyn hon fydde'r olaf?
Cawsom gadw Sara am saith mlynedd arall i'w hanwylo. Bu farw yn fy mreichiau yn Ysbyty Llandochau ym mis Mawrth 1977. 'Anwylwch eich atgofion - maent i gyd yn werthfawr.'
Efallai nad yw darllenwyr Y Lloffwr yn gwybod mod i yn casglu hen ddywediadau ers blynyddoedd maith. Dangosais nhw i fy wyresau, a dros y gwyliau cawsant flas yn darllen fy llyfr. Dyma fi'n cael syniad, beth am rannu rhai ohonynt gyda chi, neu'n well fyth beth pe bai pawb yn gwneud adduned fach syml ar ddechrau'r flwyddyn. Rwy'n si诺r allwch gadw'r adduned fach yma i fynd am byth.
Felly, beth am wneud y flwyddyn newydd hon yn flwyddyn 'Y W锚n'? Fe gymer yr ymdrech leiaf, ond mae'n gwneud bywyd yn werthfawr.
Byddai un w锚n fach y dydd yn gwneud llawer mewn blwyddyn; un w锚n fach i'r plentyn i gadw'r deigryn yn 么l; ac un w锚n i'ch cymydog i'w gyfarch wrth fynd heibio. Peidiwch ag aros hyd yfory - efallai bydd hynny'n rhy hwyr. Eiliad mae'n gymryd i wenu ond gall barhau yn y cof am byth.
Mae gw锚n yn cynyddu gwerth eich wyneb ar unwaith. Cadwch i wenu mae yn eich siwto chi, a'r pellter agosaf rhwng dau berson ydy gw锚n. Mae rhai pobl yn rhy brysur i wenu - gwenwch chi arnyn nhw. Nid oes neb fwy o angen gw锚n na'r person sydd byth yn gwenu! Cofiwch, mae'n cymryd llawer o gyhyrau i bwdu ond dim ond dau i wenu.
Gwenwch a phan wenwch, un arall a wena, yn fuan, bydd na filltiroedd ar filltiroedd o w锚n - oherwydd i chi wenu. Mae ystyr gw锚n yr un fath ym mhob iaith. Allwn ni i gyd wenu卢does na ddim crefft arbennig. Rwy'n barod - ydych chi? Gawn ni gyd ddechrau nawr, gan ddymuno blwyddyn newydd dda i ddarllenwyr Y Lloffwr - gyda gw锚n!!
|