Er mwyn amddiffyn y lle roedd garsiwn y dref wedi cynyddu i 70 o ddynion, ond yn ofer. Difrodwyd y dre ac ysbeiliwyd eiddor Saeson.Yna ymlaen am Lanymddyfri. Yno gadawyd 300 o filwyr i roi'r castell Seisnig dan warchae ac arhoswyd dros nos yn nhref Llandeilo. Nid dyma'r tro cyntaf iddo ef a'i filwyr ddod i'r ardal. Bu yma o'r blaen yn ystod ymgyrch 1401. Yr oedd dilynwyr Glyndwr, o blith y bobl gyffredin, ar d芒n wrth ddwyn i gof yr olygfa erchyll yn Llanymddyfri ar Hydref 9fed 1401, yn dilyn ymweliad Glyndwr, pan ddienyddiwyd Llywelyn ap Gruffydd Fychan o Gaio gan Harri IV. (Erbyn heddiw gwelir cofeb i Ruffydd ger y castell).
Ers hynny yr oedd y Cymry'n fwy awyddus nag erioed i weld milwyr Owain yn rhyddhau'r cestyll ar hyd dyffryn Tywi o afael y Saeson. Rhwng y rhai a'i ddilynodd o Aberhonddu, ei fyddin a'r gwyr o Sir Gaerfyrddin a ymunodd 芒 hwy, pan gyrhaeddwyd dyffryn Tywi ar ddydd Llun, 2 Gorffennaf 1403, y mae'n debyg bod tyrfa o 8,240 yn canlyn Owain, yn wragedd ac yn grefftwyr gwlad megis seiri, gofaint a chryddion. Yn eu plith y mae'n ddigon posib bod perthnasau i chi ddarllenwyr y Lloffwr!
Erbyn hyn yr oedd Owain yn cael ei gydnabod yn arweinydd cenedlaethol. Yma yn y dyffryn fe'i cyhoeddwyd yn Dywysog Cymru. Cyn hyn, pocedi o frwdfrydedd a ddeuai i'r amlwg yn fwyaf arbennig yng Ngogledd Cymru.
Bu Owain a'i ddilynwyr yn nyffryn Tywi am tua wythnos wrth iddynt ymlwybro'n swnllyd trwy Landeilo ac i lawr am y cestyll. Erbyn dydd Mercher, yr oedd wedi ymosod ar gestyll Dinefwr a Dryslwyn. O'u blaen yr oedd bwrdeistref Saesneg Caerfyrddin, un o'r trefi pwysicaf yng Nghymru'r 15fed ganrif.
Gwrthwynebwyr mwyaf Glyndwr oedd bwrgeiswyr y bwrdeistrefi Saesneg ynghyd 芒'r Saeson a oedd wedi sefydlu o gwmpas y trefi ers cenedlaethau. Llosgodd milwyr Glyndwr felinau eu gwrthwynebwyr Saesneg ac oherwydd bod angen bwyd ac adnoddau ar y fyddin ysbeilwyd gwartheg a chnydau'r dyffryn ffrwythlon. Dyma hefyd a ddigwyddai pan ymwelai'r brenin a'r dyffryn. Yr oedd y brenin yntau yn gofalu difrodi eiddo'r Cymry.
Gyda baner aur Glyndwr yn cyhwfan ar y blaen, cyrhaeddwyd Caerfyrddin erbyn dydd Gwener. Wedi brwydr ffyrnig, syrthiodd y castell i ddwylo Owain Glyndwr a'i ddilynwyr sef gwerin y dyffryn. Yn y broses o gipio'r castell, lladdwyd 30 o drigolion y dref a llosgwyd llawer o dai ar y cyrion.
Yn 么l un amcangyfrif, collwyd nwyddau gwerth 拢1,000. Ar y dydd Gwener hwnnw, yr oedd John Skidmore, o ddiogelwch castell Carreg Cennen, yn nodi bod y cyfan o Sir G芒r wedi addo dilyn Glyndwr. Wedi gorchfygu'r castell, rhannwyd yr ysbail rhwng y fyddin ac un o'r arweinwyr lleol, Rhys Ddu, trwy gytundeb. Yr oedd Glyndwr am i'r cymunedau Cymraeg lleol gymryd y cyfrifoldeb am y cestyll a orchfygwyd.
Yn ystod yr ymgyrch yr oedd y dynion o ddylanwad yn troi i ochri gyda Glyndwr, fel y gwnaeth Jankyn Havard, cwnstabl Castell Dinefwr. Yr oedd Philip Skidmore, capten y garsiwn yng Ngharreg Cennen, un o linach John Skidmore y soniwyd amdano eisoes, wedi ochri gyda Glyndwr, ond fe'i daliwyd gan wyr y brenin yn Shrewsbury a'i grogi yn 1411. Er mwyn osgoi'r gosb dihangodd Henry Gwyn, etifedd arglwyddiaeth Llansteffan, i Ffrainc. Flynyddoedd yn ddiweddarach fe'i lladdwyd ym mrwydr Agincourt (1415) tra'n ymladd o blaid Ffrainc.
Erbyn diwedd Gorffennaf, yr oedd Glyndwr a'i fyddin wedi gyrru trwy Gastell Newydd Emlyn a choncro'r castell ac erbyn diwedd Awst yr oedd wedi symud i Aberystwyth a Harlech.
Ond yn 么l ei arfer, yr oedd Harri'n gwylio datblygiadau yng Nghymru ac fel y gwnaeth droeon o'r blaen, yn dilyn cyrch gan Owain Glyndwr, daeth y brenin a'i fyddin yn 么l yng nghanol Medi 1403 a martsio o Aberhonddu i lawr trwy ddyffryn Tywi i Gaerfyrddin ac ail sefydlu rheolaeth ar y castell yno.
Gadawodd 550 o ddynion y dref dros gyfnod o chwe mis. Ond go brin iddo dderbyn yr un croeso yn y dyffryn ag Owain Glyndwr ddeufis ynghynt. Yn 2004 edrychwn ymlaen at weld y Swyddfa Bost yn cyhoeddi stampiau i nodi sefydlu Senedd-dy Owain Glyndwr ym Machynlleth.
(Darllen Pellach : R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyndwr a llyfr Cymraeg Owain Glyndwr llyfr hynod o ddarllenadwy gan yr un awdur.)
Len Richards