Am y tro cyntaf mae Cob Cymreig a gafodd ei magu yn Nyffryn Tywi a'i henw ar Gwpan Tywysog Cymru. Uchelgais pob bridiwr y Cob Cymreig yw gweld enw'i anifail ar y Cwpan enwog hwn a gyflwynir i Brif Bencampwr y brid.
Enillydd eleni oedd Llamri Lausanne (ar 么l yr emyn d么n). Caseg winnau saith mlwydd oedd a fagwyd yng Nghilycwm gan Christopher Jones ac Eric Williams.
Roedd yn dychwelyd i Lanelwedd am y tro cyntaf fel caseg ar 么l ennill ei dosbarth yno yn dair blwydd oed yn 2002. Gyda Christopher yn sylwebu ac Eric yn stiwardio yn y prif gylch, amhosib oedd cuddio'r emosiwn a'r dagrau o lawenydd wrth i'r beirniad B Foster , Bridfa Gerrig, Y Fenni dynnu ei fowler a choroni Lausanne yn Bencampwraig a hithau mor ifanc.
Yn ychwanegol fe enillodd cwpan "Tom a Sprightly" (beirniad E Jones, Bridfa Esceifiog, Ynys M么n). Roedd Llamri Lausanne yn edrych yn ysblennydd gyda'i pherchnogion newydd o saith mis sef y Teulu Jones, Frongoi, Pennant, Ceredigion...un o fridfeydd enwocaf yn y wlad. Pam ei gwerthu? "Mae angen bod yn athletwr i ddangos Lausanne," yn 么l Chris.
Cliciwch yma i weld lluniau o'r Cobiau Cymreig yn Sioe Llanelwedd 2006 Gwefan Sioe Frenhinol Llanelwedd
|