Soniwyd yn y rhifyn diwethaf bod Sh芒n Cothi a chriw o'i ffrindiau am farchogaeth o Ogledd Cymru i'r De dros gyfnod o dair wythnos gan gychwyn ar 25 Awst.
Llongyfarchiadau iddynt oll ar gyflawni'r gamp gan lwyddo i godi arian sylweddol i elusen 'Amser Justin Time' - elusen a sefydlwyd gan Sh芒n er cof am ei diweddar wr, Justin Smith, a fu farw o ganser y pancreas flwyddyn yn 么l ac yntau ond yn 42 oed.
Bydd yr arian a godwyd ar y daith yn cael ei ddefnyddio i ariannu gofal a thriniaeth i gleifion sy'n dioddef o'r canser hwn yng Nghymru, yn ogystal ag ariannu ymchwil arbennig yn y maes.
Cafodd trigolion Ffarmers a'r cylch y cyfle i groesawu Sh芒n a'i ffrindiau yn ystod y daith.
Cyrhaeddodd y criw yn Ffarmers ar brynhawn Sadwrn, 6 Medi, yn ystod sioe Caeo a Llanycrwys.
Cafodd y ceffylau'r merlotwyr lety yn Ffarmers ar y nos Sadwrn cyn ail-gychwyn ar eu taith ar y bore Sul.
Daeth tyrfa o gefnogwyr i'r pentref ar y bore Sul i ffarwelio 芒'r criw, ac ymunodd dros hanner cant o ferlotwyr ar y daith o Ffarmers i Lanymddyfri dros Fynydd Mallaen.
Roedd yn ddiwrnod sych a chafwyd tipyn o hwyl.
Trefnwyd bod cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd y daith i godi arian at yr elusen, ac yn eu plith, Cyngerdd a Chymanfa Fodern yn Neuadd Bro Fana ar y nos Sul.
Llywydd y noson oedd Mr David Thomas, Cilgerran, Prifathro Ysgol Ffarmers yn ystod y cyfnod y bu Sh芒n yn ddisgybl yno.
Yn ei araith, cyfeiriodd at nifer o ddigwyddiadau difyr o'i gyfnod yn y pentref.
Cafwyd eitemau gan G么r Rhianedd Rhys yn ystod y noson a chafodd y gynulleidfa gyfle i ganu amrywiaeth o emynau cyfoes o dan arweinyddiaeth Sh芒n Cothi, a ddychwelodd o Lanymddyfri, yn dilyn diwrnod yn y cyfrwy.
Cafwyd noson hwyliog o dan arweinyddiaeth Ffion Jones, gyda Mared Tomos yn cyfeilio.
Llwyddwyd i godi dros 拢1,000 o'r digwyddiad hwn a gafodd ei noddi gan Fanc Lloyds TSB, a'r bwriad yw cyflwyno siec i Sh芒n ar Nos Sadwrn, 11 Hydref, pan fydd C么r Dydd yn perfformio yn Neuadd Bro Fana.
Yn ogystal 芒 hyn, cafwyd cyfraniadau hael gan gefnogwyr ar ddydd y Sioe ac ar y bore Sul, a llwyddodd y merlotwyr i godi swm sylweddol trwy nawdd.
Erbyn hyn, rhyddhawyd sengl a fideo yn dwyn y teitl 'I Believe' er budd yr elusen.
Fe'i recordiwyd gan Sh芒n Cothi, Bryn Terfel, Tigertailz (y band y bu Justin Smith yn aelod ohono) a Ch么r Serendipity.
Ceir y manylion llawn ar wefan amserjustintime.org a gellir hefyd gyfrannu at yr elusen ar y dudalen we honno.