成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y grwp a ymwelodd 芒'r Cynulliad Cenedlaethol ynghyd 芒'r tywyswyr Richard Gwyn Jones a Dilwyn Young Jones Crwydro'r Senedd
Ebrill 2007
Bu criw o ardal Y Lloffwr ar wibdaith yn ddiweddar i weld adeilad y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Hywel Jones sy'n adrodd yr hanes.

Aeth gr诺p ohonom yn ddiweddar ar daith dr锚n o orsaf Llandeilo i ymweld 芒'r Cynulliad ym Mae Caerdydd. Roedd pris tocyn i'r gr诺p yn rhesymol, yn 拢7 y pen. Cyrhaeddom ardal y Bae, o orsaf rheilffordd y ddinas, yng Nghar y Bae, ac aethom yn syth i ymweld ag adeilad Glanfa'r Cynulliad, adeilad sy'n perthyn i Oes Fictoria.

Mae'r adeilad yn rhan o ystad y Cynulliad ac yno ceir arddangosfa o waith y Cynulliad. Roedd siop yno hefyd inni gael prynu nwyddau i'n hatgoffa o'r ymweliad. Deallasom fod y Lanfa yn adeilad gwahanol i'r Senedd - maent serch hynny yn symbolau o'u cyfnod gyda gwydr, pren a llechi modern y Cynulliad yn cyferbynnu 芒 cherrig coch traddodiadol adeilad y Lanfa. Yn y Lanfa cawsom ein hebrwng at ddau o'n harweinyddion a fyddai yn ein tywys trwy gydol y dydd, sef Dilwyn Young Jones, nai y Parch John Young, cyn-weinidog Capel Providence, Cwmdu a Richard Gwyn Jones.

Adeilad y SeneddAr 么l gadael adeilad y Lanfa aethom yn syth i ymweld ag adeilad y Cynulliad. Bu rhai'n archwilio ein heiddo yn fanwl cyn inni fynd i mewn i'r adeilad. Yna ymlaen i weld y Neuadd. Dyma'r man cychwyn, sef y prif fan cyfarfod. Ceir yno lawr llechi eang, ac roedd y golygfeydd dros Fae Caerdydd yn odidog.

Dringwyd y grisiau llechi wedyn i fyny i'r Oriel. Yr oedd strwythur pren ynghanol yr Oriel yn rhan o'r twndis sy'n nodweddu dyluniad yr adeilad, ac sy'n rhan o'r system awyru naturiol. Wrth i ni edrych i fyny ar y twndis gwelsom gwfl gwynt a llusern. Mae'r cwfl yn troi gyda'r gwynt ac yn creu gwasgedd negyddol i ryddhau aer o'r adeilad. Mae hyn yn cadw tymheredd y Senedd yn gyfforddus heb fod angen system awyru gonfensiynol.

Cawsom wybod mai islaw'r adeilad, yn ddwfn yng nghreigwely Bae Caerdydd, ceir system wresogi o'r ddaear, sef cyfres o bibau sy'n creu gwres cyfnewidiol. Mae'r system ddwy neu dair gwaith yn fwy effeithiol na system gonfensiynol o ran arbed ynni. Ceir Dwyler biomas hefyd sy'n llosgi pren mewn ffordd eco卢gyfeillgar i wresogi'r adeilad. Clywsom fod yr holl nodweddion hyn yn sicrhau gostyngiad o 40% yn y gost o redeg yr adeilad. Buom yn ymweld 芒'r dair ystafell bwyllgora, is yna tua chanol dydd aethom allan i gael pryd reit flasus o bysgod a sglodion, ym mwyty Harry Ramsden, sydd dafliad carreg o'r Cynulliad.

Aethom yn 么l i'r Cynulliad ar 么l cinio ac aethom i mewn i'r siambr am awr a hanner i wrando ar y Cyfarfod Llawn, ble gawsom gyfle i wylio ac i wrando ar aelodau o'r pleidiau yn gofyn cwestiynau i Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan. Yr oedd cerflun gwydr ar ganol y llawr, a cheir seddi i drigain o Aelodau'r Cynulliad o amgylch y cerflun hwn. Mae'r Llywydd, Dafydd Elis Thomas, yn wynebu'r Aelodau gyferbyn 芒'r Gweinidogion. Mae cefnogwyr y Llywodraeth yn eistedd y tu 么l i'r Prif Weinidog a'r Gweinidogion ac mae aelodau'r pleidiau eraill yn eistedd bob ochr i'r Llywydd.

Lleolir byrllysg Cynulliad Cendlaethol Cymru o flaen y Llywydd. Rhodd i'r Cynulliad gan Senedd De Cymru Newydd, Awstralia, yw'r byrllysg hwn, a chafodd ei gyflwyno i'r Cynulliad ar 1 Mawrth 2006 yn ystod yr Agoriad Brenhinol gan y Frenhines. Gwelsom fod gan bob aelod system gyfrifiadurol o'r radd flaenaf, hefyd glustffonau i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Yr oedd y rhan fwyaf o'r cwestiynau gan Blaid Cymru yn cael eu gofyn yn yr iaith Gymraeg ac felly roedd y Prif Weinidog yn eu hateb yn Gymraeg. Yr oedd ambell i gwestiwn llosg yn cael ei ofyn, ac atebai'r Prif Weinidog yn ei ddull ffraeth arferol. Pan ddigwyddai hyn yr oedd Aelodau yn y Siambr yn dechrau chwerthin, a byddai'r Llywydd yn ymateb trwy yngan y geiriau 'Order! Order!'

Aeth yr awr a hanner heibio yn weddol gyflym a defnyddiom Gar y Bae i fynd o'r Bae i Orsaf Caerdydd. Ryw fws hir un llawr yw Car y Bae ac mae'n dal 132 o bobl. Os ydych wedi teithio ar y tr锚n i Gaerdydd, cewch ddefnyddio eich tocyn i sicrhau taith ar y bws hwn yn rhad ac am ddim.

Bwriedir cynnal digwyddiad tebyg yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar 么l yr Etholiad. Efallai yr eir ym mis Medi. Cysylltwch 芒 mi cyn gynted a phosib i sicrhau lle. Oherwydd rheoliadau Iechyd a Diogelwch, pymtheg person yw'r mwyafrif mewn un gr诺p a all fynd i mewn i'r Siambr i glywed y Cyfarfod Llawn, a dyna dybiwn i yw uchafbwynt yr ymweliad.

Hywel Jones

  • Mwy am y Senedd a'r Cynulliad Cenedlaethol

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 成人论坛 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy