Fel rhan o weithgareddau Darganfod y Tywi Prosiect Tywi Afon yr Oesoedd, penderfynwyd comisiynu cadair. Pwrpas y gadair yw bod yn ganolbwynt mewn nosweithiau dweud stor茂au yn nhraddodiad y 'Cyfarwydd'. Testun un o weithgareddau Darganfod y Tywi yw
'Dweud y Stori'.
Un o fwriadau'r thema hon yw ennyn trigolion lleol i adrodd stor茂au'r ardal yng nghwmni stor茂wr proffesiynol i fagu eu hyder ac i ail gynnau traddodiad y Cyfarwydd'. Yn llysoedd tywysogion y Canol Oesoedd byddai lle parchus i'r cyfarwydd er nad oedd ei statws gyfuwch 芒 bardd neu bencerdd. Byddai'n adrodd storiau a etifeddodd drwy'r traddodiad llafar gan ddileu, newid neu ychwanegu at y chwedl yn ol ei arddull.
Disgwylid i'r cyfarwydd ddiddanu, bod yn ddramatig ac adrodd stor茂au mewn iaith mwy dealladwy na'r beirdd. Yn sicr, byddai croeso i'r cyfarwydd yn llys yr Arglwydd Rhys yn Ninefwr. Ar wahan i Bledri ap Cydifor a ddeuai o ardal Caerfyrddin ac felly o gyffiniau'r Tywi, yn anffodus ni wyddys braidd dim am bwy oedd y cyfarwyddiaid a'u hanes.
Ar y dechreuad fe luniwyd rhestr o anghenion cyn gwahodd nifer o wneuthurwyr lleol i gynnig cynlluniau. Ymysg y gofynion oedd yr angen i'r gadair fod yn ysgafn gan y bydd yn cael ei chludo o le i le, rhaid iddi hefyd fod o ddefnyddiau lleol a'r pren o goedwig gynaliadwy.
O ran cynllun dylai'r gadair gyfleu elfennau ardal y prosiect ac i fod yn addas i blant ac oedolion eistedd ynddi. Roedd cyfuniad o gynllun, ymarferoldeb ac estheteg yn ystyriaethau canolog wrth ddewis y gorau.
Y cynllun a ddaeth i'r brig oedd un gan Jonathan Garrard a oedd yn cyflawni'r amodau a osodwyd. Dim ond dechrau'r broses oedd dewis y gwneuthurwr a bu Elgan Jones, Swyddog Dysgu a Dehongli'r prosiect yn cydweithio yn agos gyda Jonathan drwy gydol datblygu a gwneud y gadair wrth iddo ddiweddaru agweddau o'r cynllun.
Mae'r gwneuthurwr celfi blaenllaw yn cynorthwyo i adfer y grefft hynafol o adrodd straeon yn Nyffryn Tywi. Caiff y gadair ei defnyddio gan ysgolion, grwpiau cymunedol a Michael Harvey, prif stor茂wr y prosiect.
Mae'r gadair wedi ei gwneud o bren derw sydd wedi tyfu yn nyffryn Tywi. Mae yna ddarnau o dderw cors yn cysylltu'r ddwy styllen gefn wrth ei gilydd.
Daw'r derw cors o wely'r afon Tywi i'r gorllewin o Landeilo. Mae'r darnau ar ol eto yng nghanol yr afon ar y gadair.
Mae'r gadair yn gyfuniad o ddelweddau a dehoghliadau'r dyffryn. Mae'n todern and eto'n soffistigedig ac yn ffocws teilwng i storiwyr yn nhraddodiad y Cyfarwydd.
Gellir gweld y gadair yn Llyfrgell Gyhoeddus Llandeilo.
Mae Tywi Afon yr Oesoedd yn derbyn nawdd oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cynllun Datblygu Gwledig, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Sir Gar, Cyngor Cefn Gwlad a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.