Un o'r pethau sy'n mynd i rhan helaeth iawn o fy amser i ar hyn o bryd yw ceisio arwain a chadw trefn ar Fois y Castell - sy'n dipyn o job ar adegau, credwch fi! Ond, pam arwain c么r o fechgyn yn y lle cynta', meddech chi? Cwestiwn da, ac un y bydda i'n ei ofyn i mi fy hun yn aml! Mae'r diddordeb a'r awydd i arwain corau yn deillio'n 么l i ddyddiau coleg yn bennaf mae'n si诺r. Tra yn y Brifysgol ym Mangor a thra'n byw yn Neuadd JMJ y daeth y cyfle cyntaf i arwain c么r o unrhyw fath, a hynny yn yr Eisteddfod Ryng-golegol. Doedd hynny ddim y profiad rhwyddaf dan haul - doeddech chi byth yn si诺r pwy fyddai'n ymddangos o'ch blaen ar y llwyfan nac ym mha gyflwr y byddai rhai ohonyn nhw! Ond dyna ni, roedd yn dipyn o sbort a'r gystadleuaeth ffyrnig rhwng Bangor ac Aberystwyth yn ychwanegu at yr hwyl a'r cyffro! Yn ystod fy nhrydedd blwyddyn ym Mangor fe ges i'r cyfle i fynd 芒 ch么r merched JMJ i'r 糯yl Gerdd Dant ym Mhwllheli i gystadlu ar y C么r Gwerin. Roedd hwn yn brofiad gwahanol iawn a phawb yn cymryd pethau o ddifri y tro yma. Freuddwydiais i erioed am lwyddiant y diwrnod hwnnw, ond er mawr syndod i mi, ni ddaeth i'r brig. Cofiwch chi, efallai ei bod hi wedi bod o fantais fod gan y beirniaid a minnau yr un chwaeth mewn dillad ar y diwrnod arbennig hwnnw!! Un o'r pethau syn rhoi'r boddhad mwyaf i mi yn sicr yw hyfforddi plant a phobl ifanc i ganu. Does dim dwywaith eu bod nhw'n llawer haws i'w trin na chriw o ddynion ac yn llwyddo i ddysgu eu gwaith mewn hanner yr amser! Dydy mynd draw i Ysgol Teilo Sant neu i Ysgol Bryn Tawe i ddysgu canu ddim yn waith! Yn ystod fy mlynyddoedd cyntaf yng Nghaerfyrddin fe f没m yn ffodus iawn o gael y cyfle i gynorthwyo Islwyn Evans yng Nghastellnewydd Emlyn ambell i fore Sadwrn yn ystod dyddiau cynnar Ysgol Gerdd Ceredigion. Fe wnes i elwa'n fawr o'r profiad a dysgu llawer wrth wylio Islwyn wrth ei waith. Mae gen i barch ac edmygedd mawr tuag ato fel arweinydd corawl ac mae'r cyfle mae e'n ei gynnig i blant a phobl ifanc ei ardal yn amhrisiadwy. Oni fyddai hi'n braf gweld rhywbeth tebyg yn cael ei sefydlu yma ym Mro Dinefwr? Does dim dwywaith bod gennym ninnau hefyd blant a phobl ifanc talentog iawn a allai elwa o brofiadau tebyg. Wel, mae'n well i mi ddod yn 么l at Fois y Castell mae'n si诺r. Fel mae'r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, canlyniad Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr 1996 ydy'r c么r. Rydw i bob amser wedi bod yn berson sy'n hoffi her a sialens newydd, a phan ofynnwyd i mi gan Gareth Vaughan i fynd ati i sefydlu c么r ar gyfer yr Eisteddfod, wnes i ddim pendroni'n hir. A bron i naw mlynedd yn ddiweddarach rydw i'n falch i mi wneud y penderfyniad hwnnw. Mae'n waith caled ar adegau ac yn dreth ar amynedd ambell waith; ond pan fyddant ar eu gorau mae 'na rhyw wefr arbennig i'w deimlo a'r gwaith caled yn talu ffordd. Does dim dwywaith eu bod nhw'n griw o adar ond maen nhw'n griw triw iawn hefyd, yn ffrindiau da ac yn llawn sbri; a nac ydw, wir yr, dydw i ddim byd tebyg i Davina!!! dan ofal Prosiect Papurau Bro
|