Yr oedd y cyfnod hwn ym 1802 yn un a fyddai'n cael ei gofio o ganlyniad i enwogrwydd y collwr na lwyddodd i gynrychioli ei Sir yn y Senedd.
O'i gymharu 芒 difaterwch ein dyddiau ni adeg etholiad a sbloet etholiadau'r gorffennol, yr oedd y "Lecsiwn Fawr" yma yn nodedig am ei gormodedd.
Digon o hwyl a sbri Yn y cyfnod o dan sylw, hwyl a sbri, yn debyg iawn i fwynhad ar adeg gwyliau tymhorol, oedd i'w weld adeg etholiad. Nid oedd yr elfen boliticaidd yn cyfrif fawr ddim oherwydd natur y Senedd ar y pryd. Roedd yr etholwyr yn disgwyl elwa o'r achlysur yn ariannol neu'n faterol.
Yr oedd Syr James Hamlyn, Rhydodin, wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel Aelod Seneddol dros Sir Gaerfyrddin wedi iddo gynrychioli'r Tor茂aid ers 1793, a phenderfynodd ei fab Syr James Hamlyn Williams sefyll am y sedd honno.
Ei wrthwynebydd ar ran y Chwigiaid oedd William Paxton, banciwr o Lundain a oedd wedi gwneud ei ffortiwn yn yr India ac wedi prynu stad Middleton lle mae'r ardd Fotaneg yn awr.
Felly roedd dau deulu cefnog yn ymladd am y bleidlais.
Mynd dros ben llestri Ar ddechrau'r 19eg ganrif nid oedd terfyn ar y swm y gellid ei wario ar ymgyrch etholiadol ac felly roedd modd mynd dros ben llestri go iawn. A dyna a ddigwyddodd. Cafodd yr etholwyr eu swcro ymhob ffordd bosib.
Dechreuodd y canfasio tua mis Mawrth 1802. Yn 么l yr hyn a gofnodwyd yr oedd ymddygiad y cyhoedd yn frawychus a thrais y ddwy blaid yn beryglus. Yn 么l papur y Times, "The most violent contest ever remembered here."
Dros gyfnod y canfasio o ryw bedwar mis, cadwyd y tafarndai yn agored 芒'r cyhoedd yn yfed a bwyta ar draul y ddau ymgeisydd.
Dechreuwyd pleidleisio ar 17 Gorffennaf a chodwyd chwe stondin i'r pleidleiswyr ac un i'r siryf ym mynwent yr Eglwys. Cafodd y cyhoedd 15 niwrnod i fwrw eu pleidlais.
Diffyg pleidleiswyr Wedi pythefnos sylwyd nad oedd llawer wedi trafferthu pleidleisio. A pha ryfedd! Yr oedd y bwyd a'r diod yn dal i lifo o fore gwyn tan nos. Aeth y siryf ati a gorfodi'r bobol i bleidleisio a hynny mewn grwpiau o ddwsin.
Cyhoeddwyd canlyniad yr etholiad yn nhre Llandeilo. Dyna oedd yr arfer hyd nes sefydlu'r Cyngor Sir ar ddiwedd y 19eg ganrif a chanoli popeth yn nhref Caerfyrddin. A'r canlyniad: Williams 1217 pleidlais, Paxton 1110. Cynhyrfwyd y dorf a mynnwyd cadeirio'r ddau ymgeisydd.
Erbyn diwedd yr ymgyrch yr oedd Paxton wedi gwario 拢15,690 ar 2,500 o etholwyr. Yr oedd wedi talu am 11,070 brecwast, 36,901 cinio, 684 swper, 25,275 galwyn o gwrw. 11,068 o boteli gwirodydd, 8,879 o gwrw du, 460 potel o sieri, 509 potel o seidr a gwerth 拢18-18-0 o bwnsh. Talodd 拢4,521 am logi ceffylau a 拢786 am rubanau.
Troi ei gefn Hefyd addawodd godi pont newydd ar draws y Tywi ond wedi gwario'r holl arian, anghofiwyd am y fenter honno a throdd ei gefn hyd yn oed ar ei gefnogwyr mwyaf brwd. Ond ymhen hir a hwyr yn 么l y daeth a llwyddo i gynrychioli'r Sir ym 1806.
A'r twr? Y farn boblogaidd yw mai ffolineb Paxton oedd iddo godi'r twr ym mhen pellaf tiroedd Middleton yn edrych i lawr ar bentref Llanarthne, yn rhannol oherwydd iddo golli'r lecsiwn.
Ond ni chodwyd y twr tan 1806 a hynny flwyddyn wedi buddugoliaeth Nelson ym mrwydr Traffalgar. Ac fel y soniwyd eisoes yr oedd y flwyddyn honno yn flwyddyn fawr iddo.
Erthygl gan Len Richards
|