Yn athrawon, yn ferched swyddfa ac yn fyfyrwyr, eleni eto brwydrodd merched tynnu rhaff Llangadog i gipio teitlau haeddianol i'w henwau. Daeth y shorts cwta, y sgidie ffeminin, y belt mawr a'r pendantrwydd allan i wynebu her ar 么l her am flwyddyn arall.Bwriad ein hyfforddwyr oedd i ni wneud ychydig o'r ymarfer gaeafol 'ma - rhedeg a chwysu fel syrthia'r eira! Fe sylweddolom y byddai "hunan ddisgyblaeth" yn air pwysig eleni. Roedd arholiadau ysgol a choleg yn wynebu rhai, a galwadau swyddi yn pwyso ar y gweddill.
Aeth llawer noson o ymarfer pan gorfu i ni ymarfer mewn glaw trwm - a'r d诺r yn rhedeg i lawr ein coesau! Ar un o'r nosweithiau hynny, fe'n gorfodwyd i ymarfer tu fewn, ar yr indoor mats. Rhaid defnyddio sgiliau gwahanol ar y rhain, ac mae'n wir eu bont yn bethe bach digon caled ar y breiche, er i un neu ddwy ddangos brwdfrydedd mawr arnynt!
Fel g诺yr pawb erbyn hyn mae'n si诺r, mae "pwyso" yn ffactor hanfodol yn y math hwn o gystadlu - weithiau, rhaid i ni newynu cyn camu ar y glorian, ac yna bwyta popeth o fewn cyrraedd cyn mynd at y rhaff rhyw ddwy awr yn hwyrach!
Hyn oedd yr hanes ar ddiwrnod pencampwriaeth tynnu rhaff Cymru ar Gae William, Llandeilo. Fe'n siomwyd ni braidd y diwrnod hwnnw, ond ni pharodd y teimlad hwnnw yn rhy hir oherwydd rhaid oedd teithio i fyny i Stoneleigh yn hwyr y prynhawn. Arhosom mewn lle swanc iawn ac roedd yn dipyn o drueni mai dim ond am noswaith ro'n ni yno! Fe wnaethom ni ennill y trydydd safle allan o ddeg t卯m, ac fe'n plesiwyd yn fawr!
Wedi rhoi'r gystadleuaeth hon o'r neilltu, rhaid oedd canolbwyntio ar Lanelwedd unwaith eto. Ro'n ni i gyd yn barod am bythefnos o lafur caled - ro'n ni am ennill y teitl hwn eleni eto er mwyn ymweld 芒 Stoneleigh y flwyddyn nesa. Fe gyrhaeddodd wythnos y sioe, ac roedd y nerfau yn eithaf tawel ... nes bore Mercher! Fe wnaethom ni fwynhau'r sioe yn fawr iawn a bu'r dathlu yn gampus brynhawn a nos Fercher ar 么l i ni gipio'r wobr! Ro'n ni wedi ei gwneud hi!
Wedi sobri ar 么l llwyddiant y sioe, dychwelyd i Lanfynydd am fwy o ymarfer fu'n hanes. Y gystadleuaeth nesaf, a'r olaf ar yr agenda oedd y trip i bencampwriaethau'r DU yn Halkyn, gogledd Cymru. Wel, am benwythnos a hanner! Cawsom ofn wrth gamu ar y glorian greulon ar y nos Wener ar 么l cyrraedd - roedd lot fawr o bwysau 'da ni i'w golli!
Cyn terfynu'n tymor, cawsom ychydig o hwyl wrth dynnu'r rhaff mewn dwy sioe arall, sef Llandeilo a Chynwyl Elfed. A dyna ni erbyn hyn wedi rhoi'r shorts i gadw, wedi hongian y 'sgidie a'r belt, a chloi'r pendantrwydd yn y bagie ymarfer... tan y flwyddyn nesa!
gan Ferched Tynnu Rhaff Llangadog (dan ofal Prosiect Papurau Bro)