Dyma'r diwrnod yr aeth llond bws o aelodau petrusgar C么r merched Atsain, Llandeilo (gwelir rhai ohonynt yn y llun) ar y daith hir i Gasnewydd i gystadlu yn y gystadleuaeth i gorau merched yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Wedi cyrraedd y ddinas, aethpwyd yn syth i Gapel Mynydd Seion, Hillside i gael ymarfer byr, cyn symud ymlaen i fwrlwm y maes, cofrestru, siarad 芒'r ymchwilwyr teledu a gosod ein dillad (newydd!) yn yr unig ystafell wisgo oedd ar 么l, cyn cael ein heidio i ffwrdd i gael cyfweliad ar gyfer S4C digidol gyda Sh芒n Cothi. Yna, mewn dim o amser roeddem ar y llwyfan ar un o ddiwrnodau poetha'r haf -ac Owain ein arweinydd yn ein siarsio i "fwynhau'r profiad!" Digwyddodd rhywbeth hudol ar y llwyfan y diwrnod hwnnw - roedd pob un ohonom yn benderfynol i roi o'n gorau ac aeth hyd yn oed y darn gosod llafurus (Salm 23, Schubert) yn rhyfeddol o dda! Daeth pawb o'r llwyfan yn hapus 芒'r perfformiad ond anodd oedd gwybod beth i'w ddisgwyl gyda saith o gorau safonol iawn yn y gystadleuaeth. Wrth i'r feirniadaeth nes谩u, roedd sibrydion cadarnhaol yn dechrau ein cyrraedd gan rai oedd yn 'gwybod eu stwff' ond ni feiddiwyd codi gobeithion. Pan ddechreuodd y beirniad Gwyn L. Williams draddodi'r feirniadaeth roedd hi'n amlwg ein bod wedi plesio ond roedd hi'n foment a hanner pan gyhoeddwyd ein bod wedi dod yn ail gyda Ch么r Merched Canna, Caerdydd yn gyntaf a Ch么r Cofnod, Caernarfon yn drydydd. Ffrwydrodd cefn y pafiliwn wrth i ni glywed y newyddion da a bu'n rhaid i'r beirniad, druan gymryd saib go hir cyn cyhoeddi enw'r buddugol. Allech chi dyngu ein bod wedi ennill y Loteri! Ni fyddai'r llwyddiant wedi dod i'n rhan heblaw am ymroddiad aelodau'r c么r ond yn bennaf rhaid diolch o galon i Owain Gruffydd ein arweinydd amyneddgar ac egn茂ol am ei holl waith trylwyr yn ein paratoi ac i'r cyfeilyddion Rhiannon Griffiths a Gareth Wyn Thomas am roi o'u hamser i'n cynorthwyo. Diolch hefyd i nifer o bobl leol am ddod i'n cefnogi yn y pafiliwn. Roedd hi'n braf clywed eich cefnogaeth wrth adael y llwyfan! Oedd, roedd 5 Awst yn un o ddiwrnodau brafia'r haf ym mhob ystyr. MVJ
|