Arddangosfa yw hon o'r enw "Body Worlds ", sef Cyrff wedi eu plastineiddio ('plastination'). Beth, meddech chi yw ystyr hyn? Wel yn syml, proses o gadw corff marw heb iddo bydru, sychu, na cholli dim ar ei elfennau naturiol. Yn debyg i'r broses o berarogli corff, rhaid tynnu pob hylif ohono. Felly, gan fy mod yn Llundain, a bod yr arddangosfa yn dod i ben ar 9 Chwefror, mentrais i fyd anatomegol rhyfeddol. Dull o arddangos cyrff yw hwn a ddatblygwyd gan Almaenwr o'r enw'r Athro Gunther von Hagens. Chwarter canrif yn 么l y datblygodd y dull hwn, ac ers hynny mae gwahanol bobl wedi gadael eu Cyrff i'r Athro er mwyn eu hastudio a'u harddangos. Fe grewyd rhywfaint o gyffro pan aeth yr Athro von Hagens ati i gynnal autopsy/post mortem llawn ar gorff go iawn o flaen cynulleidfa fyw (a oedd yn talu i fod yn bresennol). Fe ffilmiwyd y cyfan a'i ddangos ar Channel 4 (yn hwyr y nos fis Tachwedd 2002). Beth bynnag am hynny, roedd yn ffordd wych o dynnu sylw at yr arddangosfa. I rai wrth gwrs, fe fyddai gweld corff go iawn wedi ei arddangos, yn codi braw, ond gallaf eich sicrhau nad braw a deimlais, ond chwilfrydedd a mwy na hynny, ymdeimlad o gael fy ngoleuo yn addysgiadol am gyfrinachau'r corff. Yn draddodiadol mae'r wyddor anatomegol wedi arwain at gyrff yn cael eu dangos mewn un ffordd yn unig. Yn yr arddangosfa hon fe aed ati yn fwriadol i arddangos y corff mewn cynifer o wahanol ffyrdd gan ganolbwyntio ar wahanol rannau ac agweddau. Arddangosfa i danio dychymyg Roedd yma arddangosfa o'r cyhyrau mewn corff person a oedd yn g么l-geidwad; corff gwraig a oedd saith mis yn feichiog, fel petai yn gorwedd ac yn dangos yn glir fel yr oedd organau eraill wedi cael eu gwthio i fyny i wneud lle i'r baban yn y groth; dyn yn nofio, gan ddangos maint y cyhyrau; person yn gweithio ar gyfrifiadur; person yn chwarae p锚l fasged; a hen wr yn chwarae gwyddbwyll, gan ddangos effaith henaint ar ei esgyrn a'i gyhyrau. Roedd yma hefyd drawsdoriad o ddyn ar gefn ceffyl, er mwyn dangos maint y gwahanol organau a'u lleoliad mewn dyn a cheffyl. Un o'r pethau mwyaf hynod am yr arddangosfa yw ei fod yng nghanol cymuned Bengali yng ngogledd Llundain. Yn union fel mae Chinatown yn llawn o siopau a bwytai Tseiniaidd, felly y mae Brick Lane yn f么r o liw ac o ddiwylliant Bengalaidd. Dwi ddim yn siwr pa fath o ymateb a fu gan y bobl leol i'r arddangosfa, yn sicr nid oeddwn i am bryd o fwyd o unrhyw fath yn syth ar 么l dod allan, ac er hynny, roedd y cyfan wedi tanio fy nychymyg. A dyna efallai grisialu'r profiad, sef ei fod yn ennyn ymateb eithafol a gwahanol mewn pobl. Prynais y llyfr swyddogol, a gan i mi ddangos diddordeb ar ddechrau'r arddangosfa, rwyf wedi derbyn manylion a chylchlythyron yn gyson gan y trefnwyr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Yn y cylchlythyr olaf, a gyrhaeddodd rai diwrnodau'n 么l, roedd gwahanol adolygiadau yn profi yr ymatebion eithafol i'r cyfan.
|