Fel un na fynychodd yr 诺yl yng Nghil- y- cwm o'r blaen - doeddwn i ddim yn si诺r iawn beth i ddisgwyl. Wedi'r cyfan, g诺yl yng nghanol dim un man? - mewn pentre' bach ar gyrion Llanymddyfri - oedd siop ne' dafarn yna? Wel, dyma ffrind yn cael perswad arna i i fynd - ac nid dim ond mynd ond cytuno i weithio tu 么l i'r bar am ychydig orie hefyd. Wel, os cofiwch, roedd mis Gorffennaf yn un go wlyb - oedd isio wellies, dillad glaw, - dim fy syniad i o 'night out' arferol!
Mi gyrhaeddais, roedd hi'n syndod o braf - gwisgais fy sgidie cerdded - wedi'r cyfan - roedd popeth si诺r o fod wedi sychu allan-yn toedd?!!
Wel cyrhaeddes y fynedfa - dyna lle roedd Gaynor yn eistedd yn ei Wellingtons a'i thrywsus glaw, uffach o wen fawr ar ei hwyneb a s诺n gr锚t yn dod o'r babell fawr. 'Dechre yn y bar' medde hi, 'iawn', me' fi, 'ble ma'r bar?', 'Jest draw fynna' - Oedd mi roedd e, ochr arall y mor o fwd. Wel, doedd dim amdani - dwy droed i fewn - a wyddoch chi be' roedd fel bod mewn 'steddfod!
Ces i noson penigamp - cwrdd pobl o bedwar ban byd yn ceisio gofyn am beint yn Gymraeg, gwrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth a chyfle i bobl gymryd at y meic a dangos eu talent. Roedd yno naws mor gartrefol, hamddenol a chyfeillgar. Pa ots am y mwd, roeddwn i yma i joio a joio wnes i, ac mi fydda i n么l eto y flwyddyn nesa'. Y cwestiwn yw, a fydd 'na fwy o Gymry yno efo fi?
'Rwy'n ffan mawr o'r 诺yl arbennig yma mae o jest mor lliwgar, ac yn ddathliad hyfryd o gymaint o wahanol fathau o gerddoriaeth o safon uchel o bedwar ban byd. Jazz, gwerin, ska, reggae, bangra, roc,rap/hiphop a DJ's -mae'na rwbeth at ddant pawb- heb s么n am yr amrywiaeth o fwydydd, a stondinau difyr.
Penwythnos gr锚t i'r teulu, gyda digon o weithgareddau creadigol i gadw'r plant yn ddiddig. Ac wrth gwrs, mae'r cyfan yn digwydd mewn llecyn mor dlws yng Nghil-y-cwm. Profiad hudolus, hyd yn oed yn y mwd a'r baw eleni.
Mae'r math yma o 诺yl hefyd yn fodd i hyrwyddo'r Gymraeg a Chymreictod, gyda'r bandiau gorau yn y s卯n roc/gwerin Cymraeg a phob perfformiad drwy'r penwythnos yn cael ei gyflwyno'n ddwyieithog gan yr unigryw 'John Gog' yn ei gilt. -a do, ges innau fy nhynnu mewn i weithio tu 么l y bar yn ystod yr awr Gymraeg. Dewch yno'n llu y flwyddyn nesa' -mae hon yn 诺yl llawer rhy dda i'w cholli.
Llio Silyn
Cynhaliwyd G诺yl Cil-y-Cwm 2007 ar 13 - 15, Gorffennaf.
Lluniau o 诺yl Dinefwr 2007