Ond ffilm thriller yw'r diweddaraf i gael ei ffilmio yma, yn Nryslwyn y tro hwn, ac yn fwy na hynny, merch o'r pentref yw seren y ffilm hefyd.Mae Eiry Hughes o fferm Caeau Newydd, Dryslwyn yn gyfarwydd iawn gydag actio ar lwyfan ac ar y sgrin fach. Roedd yn brofiad cyffrous iawn felly iddi actio rhan merch wallgof yn y ffilm Hidden ar gyfer sgrin fawr y sinem芒u. Mae'r ffilm yn cael ei chynhyrchu gan gwmni Twenty Three Pictures Ltd. Ond nid Eiry yw'r unig un o'r pentref i serennu yn y ffilm, gan mai ar fferm rhieni Eiry, Keith a Linda Hughes y cafodd Hidden ei ffilmio
"Ma' hi 'di bod yn gyfnod cyffrous iawn" meddai Eiry wrtha'i dros y ff么n o'i chartref newydd yn Llundain. "Mae'r ffarm a'r pentref wedi bod yn ferw gwyllt gyda phobol y ffilm 'bwytir lle."
Mae'r ffilm yn ymdrin 芒 materion ffermio yn y Gymru wledig heddiw, felly hawdd byddai ei chamgymryd am raglen ddogfen, ond mae Eiry yn ein sicrhau ni bod hynny yn bell iawn o'r gwir.
"Thriller yw hi" meddai. "Fi sy'n chwarae'r prif gymeriad, Carys, sy'n gorfod ymdopi 芒'r fferm ar ei phen ei hun ar 么l ei hetifeddu wrth ei rhieni. Ma' hi'n gymeriad eitha psycho, ond ry'ch chi hefyd yn gallu cydymdeimlo 'da hi."
Fe weddnewidiwyd cartref ei rhieni ar gyfer y ffilmio, ac fe wnaeth y criw ffilmio adael eu marc yn gryf ar yr ardal wrth iddynt gymryd pob ystafell wely a brecwast lleol tra bod y prif gymeriadau i gyd yn aros yn y ty fferm.
"Cafodd y stafell fyw ei throi yn swyddfa gynhyrchu dros dro ac fe wnaethom ni lenwi'r stafelloedd gwely i gyd drwy'r ty" meddai Eiry. "Ma' Mam yn gweud pan fyddwn ni n么l tro nesaf, bydd hi'n ein hala ni i ffarm Cae'r Coed, lan yr hewl!"
Er iddyn nhw wneud y rhan fwyaf o'r ffilmio ym mis Medi, maent yn bwriadu dychwelyd i Ddryslwyn i'w gwblhau ar ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Golygfeydd hardd a Gangsters Dinefwr
Mae'r ffilm yn elwa llawer ar olygfeydd ysblennydd Dyffryn Tywi. Ceir twr Paxton a chastell Dryslwyn yn gefnlen, ac yn ogystal 芒 ffilmio ar y fferm, ceir golygfeydd hefyd yn yr eglwys lle bedyddiwyd Eiry, ac mewn tafarn leol.
"Dyn ni ddim wedi dechrau ffilmio yn y dafarn eto" meddai Eiry, "ond mae lot fawr o ddiddordeb yn lleol. Pobol leol yw'r extras hefyd, ac mae rhai yn cael eu cyflogi fel rhan o'r criw. Hefyd, er mai Saesneg yw iaith y sgript, mae 'na Gymraeg mewn rhyw chwe neu saith golygfa."
Mae Eiry'n ffyddiog y bydd y ffilm yn apelio at gynulleidfa eang gan ei bod hi'n cynnwys rysait dda ar gyfer thriller llwyddiannus, sef cariad, cynllwynio a gangsters o Lundain!
Bydd premiere y ffilm yn cael ei gynnal yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, ac wedyn bydd yn cael ei dangos mewn nifer o wyliau ffilm amlwg yn cynnwys Gwyl Caeredin, Gwyl Sundance yn America a Gwyl Cannes yn Ffrainc.
Edrychwn ymlaen at weld Eiry a Dryslwyn ar ein sgrin fawr yn y dyfodol agos.
Heledd ap Gwynfor (Prosiect Papurau Bro)