Llongyfarchiadau cynnes, Rhian. Tipyn o gamp i chi'n bersonol ac fe fu'r ddrama yn llwyddiant mawr hefyd.
Do. Ar 么l i ni gael pedair seren gan 'The Guardian' yn ein hadolygiad cyntaf, roedd y sioe wedi gwerthu allan a phobl yn ciwio am naw o'r gloch y bore yn theatr The Traverse yng Nghaeredin!
Rhowch dipyn o gefndir y cynhyrchiad i ni.
Mae'r ddrama yn ymdrin 芒'r cyfnod rhwng 1995 a 2002 pan fu pedwar milwr ifanc farw mewn amgylchiadau amheus yng ngwersyll y fyddin yn Deep Cut, Surrey. Un o'r milwyr oedd Cheryl James o Langollen oedd ond yn 17 oed. Mae'r awdurdodau wedi honni mai cyflawni hunan-laddiad wnaeth y pedwar, ond dyw'r dystiolaeth fforensig ddim yn dal dwr. Fe gafodd y teuluoedd eu trin yn warthus gan y llywodraeth a'r fyddin.
Beth felly oedd nod y ddrama?
Er bod pob aelod o'r cast yn ymwybodol fod yma sgandal o dan yr wyneb, cyflwyno darn o theatr oedd y nod, nid pregethu. Gadael i'r gynulleidfa gnoi cil ar y ffeithiau a gyflwynwyd a'u gwahodd ar siwrne emosiynol. Fe dreuliodd yr awdur ddwy flynedd yn creu'r ddrama 'verbatim' yma. Hynny yw, roedd pob gair o'r ddrama wedi ei ynganu naill ai mewn sgwrs neu mewn dogfen.
Chi oedd yn chwarae rhan y fam, Doreen James.
Roedd hi'n fraint ac yn gyfrifoldeb cael camu i esgidiau person go iawn - person sy'n dal i alaru am ei merch. Fe gwrddais i 芒 Doreen James a'i gwr Des yn eu cartref yn Llangollen ar y cyntaf o Fawrth, a chafodd y sgwrs ei recordio. Roedd yn brofiad rhyfedd ond roedd hi'n fraint cael bod yno. Stori ddynol sydd yma am y dyn cyffredin yn herio'r system yn enw cyfiawnder, nid yn unig er mwyn canfod y gwir am beth ddigwyddodd i'w merch, ond er gwarchod hawliau sylfaenol yr unigolyn.
Sut lwyddoch chi i bortreadu'r fam, Doreen James?
Roedd hi'n ofynnol cadw balans rhwng portreadu'r cymeriad a dweud ei stori. Nid trwy ddynwarediad ond trwy geisio trosglwyddo ei hysbryd ar lwyfan y teimlais fy mod i fy hun yn dod yn rhan o'u hymgyrch, ac na fyddwn i fyth yr un peth ar 么l 'Deep Cut'. Fe fu'n rhaid gweithio ar yr acen - acen Gogledd Ddwyrain Cymru tebyg i un Lerpwl. Roedd gwrando ar y tapiau yn help hefyd i mi ddod i adnabod Doreen.
Tybed sut wnaeth Des a Doreen James ymateb i'r ddrama.
Fe ddaethon nhw i Gaeredin nid yn unig i fod yn y gynulleidfa ond i gymryd rhan drwy draddodi araith ym munudau olaf y ddrama. Munudau dirdynnol i ni fel cast ond profiad bythgofiadwy i bawb ohonom a'r gynulleidfa ar ei thraed.
Beth am y cyfnod ymarfer a pharatoi?
I ddechrau, roedd y ddrama yn llawer rhy hir - dros bedair awr! - a'r gamp oedd ei chwtogi heb golli llif y siwrnai emosiynol a'r stori. Gan ein bod yn perfformio'r gwaith yng Nghaeredin, roedd yn rhaid i'r ddrama fod yn llai nag awr a hanner o hyd gan fod y theatr (The Traverse) yn rhoi llwyfan i wyth drama bob dydd. Roedd hyn yn golygu mai prin hanner awr oedd gennym i baratoi cyn mynd ar y llwyfan ac o'r herwydd roedd y set ar olwynion, chwarter awr wedyn i adael yr ystafell wisgo'n glir erbyn y perfformiad nesaf ac i'r actorion nesaf gyrraedd i baratoi. Ym mis Ionawr fe gawson ni wythnos o weithdy yn Theatr y Sherman, ond dim ond un aelod o'r cast yma aeth ymlaen i berfformio'r ddrama orffenedig. Ar y cyntaf o Fawrth, fe dreuliwyd diwrnod yn Llangollen gyda rhieni Cheryl James. Wedyn ym mis Mehefin, ymarfer yng Nghaerdydd cyn mynd i Gaeredin yng Ngorffennaf ac Awst.
Rydych chi wedi bod 芒 'Deep Cut' i Theatr Clwyd ac i'r Sherman. Ble nesa?
Ym mis Mawrth, fe fyddwn ni yn y Tricycle Theatre yn Llundain.
Pob lwc i chi yn Llundain, a pheidiwch 芒 synnu gweld rhai o bobl Lloffwr yn y gynulleidfa rhyw noson!