Croesawodd Sir G芒r Eisteddfod yr Urdd i'n plith eleni a chawsom wledd o dalent o bob cwr o Gymru. Bu'r cystadlu'n frwd, a phobl ifanc yr ardal yn gosod safon aruthrol ar y llwyfan ac yn yr adran gwaith cartref. Llongyfarchiadau mawr i bawb o fro'r Lloffwr a gafodd lwyddiant a llongyfarchiadau arbennig i'r ddau isod a ddaeth i'r brig yn rhai o'r prif gystadlaethau.
Si么n Ifan
Un o'r unigolion disglair yma oedd Si么n Ifan, prif fachgen Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Mae'n si诺r y bu Sion, sydd yn byw yn Nryslwyn, yn un o gystadleuwyr prysuraf yr 诺yl eleni wrth iddo baratoi ar gyfer yr holl gystadlu. Ymhlith rhai o'i uchafbwyntiau yn yr Eisteddfod oedd dod yn fuddugol ym Monolog B1.10-13, a Chyflwyno Alaw Werin Unigol B1.10卢 - 13, dod yn ail yn yr Unawd allan o Sioe Gerdd B1.10-13, ac
Ensemble Lleisiol Bl.13, ac yn drydydd yn y C么r Bechgyn TB Bl.13 ac iau.
Ynghyd 芒 hyn, roedd yn chwarae un o'r prif rhannau yn y Sioe Gerdd 'Dagrau'r Coed'.
Ar nos Sadwrn olaf yr 糯yl cafodd Sion ei wobrwyo gyda Thlws Gwobr Talent 成人论坛 Radio Cymru. Roedd hi'n noson gofiadwy wrth i Ray Gravell gyflwyno'r tlws iddo o flaen pafiliwn llawn. Dymunwn pob hwyl i Sin wrth iddo ddechrau ar ei yrfa colegol a gobeithiwn weld llawer mwy ohono ar lwyfan ac ar sgrin yn y dyfodol. Rhiannon Marks
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Rhiannon Marks o Gil-y-cwm ar ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Sir G芒r 2007, am ysgrifennu tri darn o ryddiaith ar ffurfiau gwahanol ar y testun "Dod yn 么l". Mae Rhiannon yn aelod o Aelwyd Llyn y Fan, Llanymddyfri - aelwyd newydd sbon a gafodd ei sefydlu ar gyfer yr Eisteddfod ac sy'n si诺r o dyfu o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf.
Addysgwyd Rhiannon yn Ysgol Gynradd Rhys Pritchard ac Ysgol Gyfun Pantycelyn, Llanymddyfri cyn graddio mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae newydd dderbyn 么l-radd yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen ac ym mis Medi, bydd yn dychwelyd i Gymru ac i Adran y Gymraeg, Aberystwyth lle bydd yn treulio tair mlynedd yn gwneud doethuriaeth ar waith beirdd benywaidd cyfoes Cymraeg.
Mae Rhiannon yn hoff iawn o lenydda ac wedi cystadlu droeon mewn Eisteddfodau lleol a mwy. Enillodd y gadair deirgwaith yn olynol yn Eisteddfod Ysgol Pantycelyn ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi dod yn ail ac yn drydedd yng Nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd.
Disgrifiodd y beirniaid sef Dylan Iorweth a Mari Stevens, Rhiannon fel "awdur hyderus" a chanddi "fflach dychymyg". Dywedasant "Dyma gasgliad disglair, dychmygus a deallus".
Estynnwn ein llongyfarchion cynhesaf i Rhiannon ac rwy'n si诺r y caiff y goron gartref braf ym mro'r Lloffwr.
Coron i Rhiannon Adolygiad o Dagaru'r Coed Mwy am Eisteddfod yr Urdd 2007
|