'Roedd yna dafarn arall gyferbyn 芒'r Drovers ar sgwar y pentref, sef y Farmers Arms ac mae'n debyg mai o hwn y daeth enw'r pentref.
Mae'n amlwg bod Ffarmers yn ganolfan bwysig i'r porthmyn gan fod tri gofaint yn y pentref yn y cyfnod hwnnw.
Mae hen ffordd Rufeinig "Sarn Helen" yn mynd drwy'r pentref, ac mae'n debyg fod mynachod yn teithio ar hyd y ffordd yma wrth ymweld ag Abaty Talyllychau Ystrad Fflur.
Ceir enwau lleol sydd yn awgrymu cysylltiad felly megis Wernfendigaid, Henllan, Cae Llwvn Du Abad, Cae'r Mynach ac Esgair Crwys.
Ceir cofnod hefyd fod Melin Bannu yn agos i Felinrhos gerllaw y pentref ar lan yr afon Twrch.
Dywedir bod Dafydd ap Llvwelyn ap Gruffydd Fychan wedi derbyn caniatad ar W欧l Mihangel 1427 i godi Melin Bannu ar safle a adwaenir fel Kevynways.
Codwyd y felin, ac 'roedd tal am y brydles yn dal i gael ei gasglu ym 1486 a 1515. Go brin fod yna dafarn yn Ffarmers y cyfnod hwnnw.
Mae yna hefyd gysylltiad rhwng y Drovers ag addysg yn yr ardal. Codwyd yr ysgol bresennol ym 1877, ond mae yna s么n fod ysgol yn cael ei chynnal ar lofft y Drovers cyn hyn.
Yn wir, yn 么l cyfrifiad 1851, 'roedd ysgolfeistr o'r enw Henry Rookes - a oedd yn enedigol o Wlad yr Haf - yn byw yn Felinrhos.
Mae'r cyfrifiad hefyd yn cadarnhau bod nifer o blant a phobl ifanc yr ardal yn cael eu rhestru fel ysgolorion (scholars).
Gellir gweld felly bod trigolion Ffarmers wedi croesawu ymwelwyr ar hyd y canrifoedd, a phan fu bron i'r Drovers gau ym 1996, 'roedd yna deimlad cryf y dylid mynd ati i achub y sefydliad.
Hyn a ysgogodd criw o drigolion lleol i ffurfio Menter Gymunedol i brynu'r Drovers.
Ers hynny, mae gwaith atgyweirio, uwchraddio ac ehangu wedi ei gyflawni gan sicrhau tafarn a bwyty safonol i drigolion lleol, yn ogystal 芒'r llu ymwelwyr a geir i'r ardal.
Mae ymdrechion y Fenter wedi creu gwaith yn yr ardal gyda theulu yn ennill bywoliaeth o'r dafarn a'r bwyty, yn ogystal 芒 chreu swyddi i staff rhan-amser.
Mae'n debyg bod y fenter wedi dod a llawer mwy o fanteision na'r hyn a ddychmygwyd pan fentrwyd arni ym 1996.