Doedd dim rhaid i Aled Samuel deithio'n bell i gyflwyno'r ail raglen yng nghyfres newydd Y Dref Gymreig, sy'n bwrw golwg ar hanes adeiladol nifer o drefi yng Nghymru.
Llandeilo sy'n cael sylw Aled a'r arbenigwr Dr Greg Stevenson yn y rhaglen hon, a dyma'r dref y bu Aled yn byw ynddi ers bron i 11 mlynedd. Ac fel mae'n dweud ar ddechrau'r rhaglen, "Mae ganddi hanes pensaern茂ol hynod o liwgar".
Ond nid dyna'r rheswm pam y cafodd yntau ei ddenu i fyw i Landeilo. Roedd y dref wedi ei gyfareddu ers iddo fod yn blentyn.
"Hyd at o'n i'n wyth oed ro'n i'n byw yn y de ac yn teithio o Bort Talbot i Fangor yn ystod pob gwyliau. Mi roedd hi'n bum awr o daith ac mae gen i nifer o atgofion gweledol o'r daith honno, mae'r atgofion yn sownd yn fy mhen i. Ac un ohonyn nhw yw tre Llandeilo. Roedd 'na rywbeth pleserus iawn o weld y dre ar y bryn o bell, ac yna mynd i fyny ati, a theithio trwyddi. Mae'n un o ddelweddau'r daith sydd wedi aros yn y cof."
Bydd Aled yn teimlo'n reit gartrefol, felly, wrth grwydro gyda Greg a'i gi Minti o amgylch y dref. Mi fyddant yn galw heibio Eglwys St Teilo a chastell Cymreig pwysig, Castell Dinefwr, a ildiwyd i Edward I ym 1277. Byddant hefyd yn crwydro i lawr Stryd Fawr y dref ac yna yn ymweld 芒 thy Sioraidd sydd wedi ei leoli drws nesa i'r bont drawiadol a gynlluniwyd ym 1840. Adeiladwyd y ty hwn i fod yn gartref i asiant yst芒d Gelli Aur.
Bydd y triawd chwilfrydig hefyd yn ymweld 芒 Phlas Dinefwr cyn mentro i lawr i ddyfnderoedd banc yn y dref a sefydlwyd ym 1799. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du gan David Jones a oedd yn borthmon, un o'r rhai a oedd yn gyrru gwartheg o Orllewin Cymru i'r marchnadoedd yn Llundain. Dewisodd enw'r banc yn fwriadol er mwyn ceisio denu ei gyd-borthmyn i ymddiried eu harian i'w fanc.
Mae Aled a Greg yn gyt没n fod tref Llandeilo yn parhau i fod yn lle prydferth a deniadol iawn.
"Mae pobl y dre yn amlwg yn edrych ar 么l eu pensaern茂aeth," meddai Greg. "Maen nhw wedi sylweddoli ei fod yn denu pobl at eu tref."
|