Pleser yw cael dweud bod cyfanswm o dros 1,800 o bobl wedi mynychu'r digwyddiadau oedd yn rhan o 诺yl Bro Dinefwr 2004. Roedd hyn yn cynnwys pobl o bob oed a chefndir a bu'r 诺yl gyfan yn llwyddiant ysgubol. Gwelwyd amrywiaeth o artistiaid gyda llawer ohonynt yn hannu o fro Dinefwr, a bu'r safon yn gyson wych. Prif nod yr 诺yl oedd rhoi cyfleoedd ychwanegol i drigolion yr ardal drwy gydweithio 芒 nifer o fudiadau a oedd yn trefnu gweithgareddau eisoes, a threfnu rhai digwyddiadau newydd. Yn ogystal a hyn rhoddwyd llwyfan i nifer fawr o ddoniau lleol - rhai yn newydd ac eraill yn fwy profiadol, a chafwyd perfformiadau safonol tu hwnt gan bawb.
Perfformiodd C么r Rhianedd Rhys, Llanymddyfri yn Noson Lawen yn Fferm Glangwenlais, Cil-y-Cwm ar nos Wener, 2 Gorffennaf, yn ogystal 芒'r gr诺p gr诺p Celsain, eto o ardal Llanymddyfri yn canu ar noson olaf yr 诺yl o flaen tua 500 o bobl.
Cafwyd ystod eang o weithgareddau yn ystod yr wythnos gan rai o brif artistiaid Cymru.
Diolch i'r holl artistiaid, y gwirfoddolwyr, y busnesau, y mudiadau lleol a'r cynulleidfaoedd a gefnogodd holl weithgareddau'r wythnos ac i Tywys am ei gefnogaeth ariannol i nifer o'r digwyddiadau. Edrychwn ymlaen yn awr at 糯yl Bro Dinefwr 2005.
G诺yl Bro Dinefwr - yr hanes yn llawn
Cafwyd wythnos i'w chofio wrth i ni ddathlu g诺yl gyntaf Menter Bro Dinefwr yn ddiweddar. Cynhaliwyd nifer fawr o weithgareddau ar hyd a lled y fro gyda rhywbeth at ddant pawb a thua deunaw cant o bobl yn mynychu'r digwyddiadau.
Digwyddiad agoriadol yr 糯yl oedd noson yng nghwmni Martyn Geraint yn Ysgol Gynradd Llansawel i ddathlu 25 mlynedd Cylch Meithrin Llansawel. Diolch i'r Cylch am drefnu'r noson a'i chynnwys fel rhan o weithgareddau'r 诺yl. Yn hwyrach yr un noson cafwyd perfformiad cofiadwy gan Elin Fflur a'i band yng Nghlwb Rygbi Llandeilo, fel rhan o'i thaith o amgylch Cymru. Gyda thua 70 o bobol yn bresennol, cafwyd noson safonol o gerddoriaeth fyw gan gyn-enillydd C芒n i Gymru a chefnogaeth gan Alun Tan Lan.
Cynhaliwyd Miri Myrddin ym Mharc Caerfyrddin ar 26 Mehefin ac er gwaetha'r tywydd daeth nifer dda ynghyd i'r diwrnod teuluol a drefnwyd gan Fentrau Iaith Myrddin. Fel rhan o slot talentau lleol Radio Cymru, fe wnaeth y band Amlder o Ysgol Tre-gib, Llandeilo berfformiad arbennig iawn i godi ysbryd y gynulleidfa wlyb, cyn mynd ymlaen i gynrychioli bro Dinefwr yn ail rownd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Yn rhannu'r un llwyfan ar y noson oedd band arall o Ysgol Tre-gib, Trydan sydd eisoes wedi cael llwyddiant yn yr Eisteddfod.
Cynhaliwyd Cymanfa Ganu yn y Capel Newydd, Llandeilo ar nos Sul ddilynol dan drefniant Eglwysi Annibynnol Llandeilo a'r cylch. Gwyn Nicholas oedd yr arweinyd gwadd a chafwyd cwmni C么r Llanpumsaint a'r cylch hefyd. Roedd yn noson lwyddiannus, yn ddiweddglo teilwng iawn i benwythnos cynta'r 诺yl.
Llongyfarchiadau i Glwb Criced Llanymddyfri a enillodd gwis chwaraeon blynyddol Menter bro Dinefwr ar y nos Lun. Cafwyd noson o ddiddanwch dan arweiniad Emyr Wyn wrth i ryw ddwsin o d卯mau'r ardal ddod ynghyd i rannu eu gwybodaeth a'u diffyg gwybodaeth!! Dilynwyd hyn ar y nos Fawrth gan noson wych o adloniant ysgafn yn Nhafarn y Drovers, Ffarmers yng nghwmni Tudur Dylan Jones. Bu wyth o feirdd yr ardal yn cystadlu am darian her Stomp y Beirdd, ond Aled Williams o Gaerfyrddin aeth 芒 hi eto, gyda'i gerddi yn dod i'r brig am yr a flwyddyn yn olynol.
Cafwyd perfformiadau arbennig o sioe dafarn newydd Ysbryd Glynd诺r gan Gwmni Theatr Bro Dinefwr ar y nos Fercher a'r nos Iau yng Ngwesty'r Castell, Llanymddyfri. Roedd y tocynnau wedi eu gwerthu'n llwyr ar gyfer y ddwy noson a braf oedd gweld y cwmni Theatr yn mynd o nerth i nerth, a chymaint o drigolion yr ardal ar y llwyfan unwaith yn rhagor. Edrychwn ymlaen at eu perfformiad nesa'.
Fferm Glangwenlais, Cil-y-Cwm oedd lleoliad penwythnos ola'r 糯yl, ac ar y nos Wener cafwyd Noson Lawen i'w chofio dan arweiniad John Gwynne, Closglas, yng nghwmni C么r Rhiannedd Rhys, Aled Edwards, Heather Jones a'r Henneseys gyda'r gynulleidfa o dros ddau gant o bobl yn mwynhau noson o safon uchel.
Daeth yr 诺yl i ben ar nos Sadwrn, 3 Gorffennaf gydag uchafbwynt addas iawn ymhob ystyr gyda bron i bum cant o bobl yn mwynhau noson wych yng nghwmni Bryn F么n a'r Band., Mynediad am Ddim, Mattoidz a Celsain. Roedd hon hefyd yn noson arbennig i Mynediad am Ddim sydd yn dathlu eu pen-blwydd yn 30 oed eleni. Diolch i bawb a gefnogodd yr 诺yl mewn unrhyw ffordd ac edrychwn ymlaen at ailadrodd y llwyddiant y flwyddyn nesaf.
Ewch i edrych ar luniau o'r 诺yl trwy glicio yma.