Ar 5 Mai bydd Arwyn Davies Y.H., Cysgod y Garth, Bethlehem (Capel Tydist gynt) yn cychwyn ar daith 177 milltir ar hyd Glawdd Offa o Gas-gwent i Brestatyn yn y Gogledd. Bydd yn daith bythefnos ac ambell ddiwrnod bydd yn cerdded hyd at 16.5 milltir. Pwrpas y daith galed hon yw codi arian i'r elusen y National Society for Phenylketenuria (NSPKU).
Mae'r elusen yn bodoli i gynorthwyo'r rhai hynny sy'n dioddef o'r cyflwr Phenylketenuri neu PKU a'u teuluoedd i ymdopi 芒 deiet hynod arbenigol ac i hyrwyddo ymchwil pellach. "Fe ddaethon ni'n ymwybodol o'r cyflwr a'r elusen pan ddywedwyd wrthon ni bod Ifan ac Awen, ein hwyr a'n hwyres fach yn dioddef o'r cyflwr creulon yma. Doedden ni erioed wedi clywed am PKU cyn hynny," meddai Arwyn.
Mae PKU yn gyflwr genetig etifeddol a achosir pan fo ensym yn y corff yn methu torri asid amino i lawr, sy'n golygu ei fod yn cynyddu yn y corff.
Mae gormod o asid amino yn y corff yn wenwynig i'r ymennydd. Mae lefelau uchel dros gyfnod o amser yn gallu arwain at drawiadau, problemau seicolegol ac ymddygiadol, ac arafwch meddwl difrifol.
Gellir rheoli'r salwch trwy ddeiet, a thrwy beidio 芒 bwyta bwydydd sy'n cynnwys protein. Mae hynny'n golygu peidio 芒 bwyta cig, wyau, cynnyrch llaeth a chnau, a hefyd fwydydd megis tatws, y rhan fwyaf o gynnyrch gwenith (e.e. pasta a bara) a rhai ffrwythau megis orennau a cheirios. Rhaid dilyn y deiet caeth iawn yma am oes, gan nad oes unrhyw wellh芒d ar hyn o bryd.
Mae arian yn hanfodol er mwyn parhau 芒'r ymchwil i'r clefyd gweddol anhysbys hwn. Profir pob baban newydd-anedig am y cyflwr (y prawf Guthrie) ers i sgrinio ddod yn orfodol yn 1969.
Bydd Arwyn yn cerdded y milltiroedd ar ei ben ei hun i bob pwrpas. Ei unig gwmni fydd Hywel Gwynfryn am ychydig ar y dechrau i recordio sgwrs ar gyfer Radio Cymru. Ar y chweched diwrnod mae rhai o'i gyd-gantorion o Fois y Castell a rhai ffrindiau eraill yn bwriadu ymuno ag Arwyn yn y Gelli Gandryll ar gyfer y daith o 14 milltir i Geintun (Kington). Tybed faint ohonyn nhw wnaiff orffen y daith?
Os hoffech chi neu unrhyw Gymdeithas noddi Arwyn ar ei daith 177 milltir, cysylltwch ag ef ar 01558 822200.
|