Teithiasant i Lundain i weld Sioe yr Arglwydd Faer. Teulu a ffrindiau yr Henadur David Lewis oeddent, wedi cael gwahoddiad personol ganddo i weld yr orymdaith ryfeddol ar y dydd y cymerodd y llw i'w wneud yn Arglwydd Faer Llundain 2007/8. Gwelsant yr orymdaith ryfeddol o 143 gwahanol adran (Ysgol Glanaethwy oedd yno dros Gynulliad Cymru), yr Arglwydd Faer yn teithio yn ei goets aur, cael pryd o fwyd arbennig yn y Mansion House a gweld T芒n Gwyllt bythgofiadwy dros yr afon Tafwys.
Mae'r tsaen a wisgir yn aur pur a phob dolen wedi ei selio ar y llythyren 's' yn dyddio'n 么l i gyfnod y Tuduriaid. Hon oedd tsaen Sir Thomas More a ddienyddiwyd gan Harri'r wythfed. Mae'r tlws yn y canol yn cynnwys arfbais y ddinas ac o'i gwmpas mae 254 o ddiemwntau. Mae ganddo ddau warchodwr bob tro mae'n gwisgo'r tsaen!
Dyma gychwyn blwyddyn brysur du hwnt y g诺r bonheddig hwn yn Faer Dinas Llundain. Swydd ddi-d芒l yw hon a fydd yn golygu cyfarfod brenhinoedd a llywyddion byd eang yn gyson bob mis. Bydd yn cyfarfod prif weinidogion yn wythnosol ac eto swydd yn rhydd o bob cysylltiad a phlaid boliticaidd yw. Yr Arglwydd Faer yw pennaeth Corfforaeth Dinas Llundain sy'n gofalu am weinyddu holl wasanaethau cyhoeddus o fewn y filltir sgw芒r yn cynnwys meysydd fel cynllunio, yr heddlu, Llys yr Old Bailey ac Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall. Bydd yn cael ei gynorthwyo gan ddau Siryff, Henaduron a Llys y Cyngor Cyffredinol.
Disgwylir iddo'n bersonol fynychu rhwng wyth a deg cyfarfod y dydd a gwneud tua mil o areithiau'r flwyddyn. Dim rhyfedd fod angen dau berson arno ymhlith y 57 o staff sydd ganddo yn y Mansion House i ymchwilio a pharatoi'r areithiau! Rhan arall bwysig o'r swydd yw cadw a datblygu statws y Ddinas fel canolfan fusnes orau'r byd ac felly bydd yn treulio tua 100 diwrnod yn teithio ar draws y byd yn hybu busnes rhyngwladol ar gyfer y Ddinas. (Dinas sydd 芒'i gwasanaethau ariannol yn cyfrannu 拢25 biliwn i'r economi yn flynyddol.)
Tras Gymreig
Dyma'r tro cyntaf ers dros ganrif i un o dras Gymreig gael ei ddyrchafu i'r swydd unigryw hon a dim ond wyth Cymro sydd wedi'i ethol ers dewis y Maer cyntaf yn 1189.
Cafodd David Lewis ei eni yn Hong Kong a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Malaya lle'r oedd ei dad yn Gyfarwyddwr Addysg y Wlad. Mae ganddo atgofion hyfryd am fyw yno ynghanol pobl gyfeillgar, tymheredd cynnes iawn a bywyd gwyllt rhyfeddol. Cafwyd gwyliau cyson yn 么l yng Nghymru drwy'r blynyddoedd ac mae'n cofio amdano yn blentyn yn dychryn a gwrthod mynd i mewn i ystafell un o'r teulu yng Nghymru pan welodd ben teigr yn gorwedd ar lawr!
Yn wyth oed cafodd ei anfon i Loegr i'r 'Dragon School' a 'St. Edward's School' yn Rhydychen cyn dilyn 么l troed ei dad i Goleg yr Iesu, Rhydychen. Astudiodd y Gyfraith. Tra yn Rhydychen daeth i nabod ei briod Theresa ac mae ganddynt fab Tom, merch Suzannah ac wyres fach, Olivia sy'n gannwyll llygad ei thad-cu a'i mam-gu.
Yn 1969 dechreuodd weithio gyda chwmni 'Norton Rose' yn y ddinas gan arbenigo mewn cyllido corfforaethol. Dringodd drwy'r rhengoedd yn y cwmni ac erbyn 1979 ef oedd rheolwr y cwmni yn Hong Kong. Daeth yn 么l i Lundain yn 1983 gan arbenigo mewn prynu a gwerthu cwmn茂au. Daeth yn Gadeirydd y Cwmni a'r partner h欧n yn 1997. Bu ei gyfraniad yn allweddol wrth i Norton Rose fod y cwmni cyfreithiol cyntaf erioed i dderbyn y 'Queen's Award for Export Achievement'. Erbyn hyn mae'n ymgynghorydd i'r cwmni ac felly'n cael amser i ehangu ei waith gwirfoddol. Ymhlith y rhai hynny mae'n Gymrawd o Goleg yr Iesu, Rhydychen; yn Henadur yn y Ddinas; Ynad Heddwch; Warden yn Eglwys St. Margaret Lothbury; Llywodraethwr ysgolion Dragon a Christ's Hospital a Phrifysgol Brookes, Rhydychen; yn Ymddiriedolwr Uned y Gyfraith Prifysgol Rhydychen; yn Gadeirydd Cyngor datblygu Adran y Gyfraith Prifysgol Rhydychen, ac yn aelod o dri Cwmni Lifrai.
Er gweithio ar draws y byd mae David Lewis yn ymwybodol iawn o'i dras Gymreig ac yn gallu olrhain ei achau yn 么l o leiaf 450 mlynedd yn yr ardal. Mae'n si诺r fyddai ei dad-cu, David Lewis arall, byth wedi gadael am Lundain. Ganwyd iddo dri mab a phan oedd yr hynaf, Thomas, ond yn wyth oed, bu farw David a dychwelodd y teulu at deulu'r fam i Birdshill ger Llandeilo. Felly yn Ysgol Llangathen cafodd Thomas ei addysg gynnar. Treuliwyd gwyliau'r haf gyda theulu'r tad yn Nyffryn Cothi. Yn 17 oed enillodd ysgoloriaeth i astudio hanes yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Roedd hwn yn chwaraewr rygbi addawol a chafodd dreial ar gyfer t卯m Cymru.
Oherwydd prinder swyddi yn y 20'au ymunodd 芒'r Gwasanaeth Sifil a'i anfon allan i'r Dwyrain pell ac yno bu'n gweithio gweddill ei oes hyd ymddeol i Aberystwyth. Deuent yn 么l i Ddyffryn Cothi yn gyson.
Geiriau Cymraeg ar Arfbais
Wrth i'r Maer hwn baratoi ei arfbais bersonol a gynlluniwyd gan ei briod , tynnodd sylw at ei gefndir Cymreig trwy gael geiriau Cymraeg arno -'Cyfuwch a'r haul bo'r nod'. (Y Maer cyntaf i wneud hyn.) Yn y wledd gyntaf a drefnodd ar gyfer 550 gyda'r prif weinidog, Gordon Brown yn brif westai cyfieithwyd y geiriau i'r gwesteion ledled y byd gan yr Archesgob Rowan Williams.
Defnyddiodd y wledd hefyd i gyflwyno cynnyrch rhagorol yr ardal i'r gwesteion sef, caws gafr 'Cothi Valley', cig oen Dolau Cothi, siocledi 'Heavenly', Llandeilo. Fe gafwyd chwisgi a licar Cymreig cyn gorffen.
Enwebodd dwy elusen ar gyfer Ap锚l y Maer 2008 sef 'Wellbeing of Women' ac 'Orbis'. Gobeithia godi pum miliwn iddynt. Cytunodd y Tywysog William fod yn Noddwr Anrhydeddus yr Ap锚l. Gyda'i bersonoliaeth dawel, gadarn, foneddigaidd a chefnogaeth lwyr ei briod bydd David Lewis yn sicr o lwyddo ym mhob maes mae'n ymwneud 芒 hwy.
Er yn byw yn y Ddinas does dim yn well ganddo wedi gorffen gwaith y dydd a chyn noswylio na mynd 芒'i Labrador du, Cothi allan am w芒c. Cawsant gyfle i ymlacio yn 么l yn ein plith dros y Nadolig ond ar ddechrau'r flwyddyn bydd y gwaith yn ail-ddechrau gyda threfnu parti calan i 500 o blant.
Dymunwn i gyd 2008 hapus a llewyrchus i'r Arglwydd Faer David Lewis a'i briod Theresa a disgwyliwn ymlaen am eu gweld yn ymddeol i Ddyffryn Cothi.
Esme Jones