Nid oedd yn edrych ymlaen at ymddeol o gwbwl, er ei fod wedi mynd heibio i oedran swyddogol ymddeol! Ond er nad oedd yn edrych ymlaen at y diwrnod, fe ddaeth dydd Sul, 25 Medi yn sydyn iawn, diwrnod ei oedfa olaf yn y Capel Newydd ar 么l bron i 19 mlynedd o wasanaeth. Dim ond dwy oedfa a gollodd yn yr amser hynny oherwydd salwch - tipyn o record.Oedfa yng ngofal yr Ysgol Sul a'r blaenoriaid oedd yn y Capel Newydd y bore hwnnw, ac er nad oedd Edward yn dymuno unrhyw ffws, nid oedd yn bosib gadael i'r achlysur basio ynGwbl ddi-ddigwydd. Cyflwynwyd rhoddion i Rhiannon Griffiths ei wraig, gan y Chwaeroliaeth, y Gymanfa Ganu a hefyd yr Ysgol Sul. Cyflwynwyd rhodd i Edward gan y Capel a darllenwyd llythyron o werthfawrogiad a chefnogaeth i'r dysteb gan y capeli lle bu'n gweinidogaethu ynddynt dros y blynyddoedd.
Yn ystod yr oedfa hefyd, cyflwynwyd rhodd i Owen Phillips, cyn -drysorydd y Capel am ei 15 mlynedd o waith diflino i'r achos, ac yntau nawr yn rhoi heibio'r dyletswyddau hynny.
Yn ail hanner yr oedfa, cymerwyd rhan gan blant a phobl ifanc yr Ysgol Sul. Cafwyd c芒n i Edward - lle diolchwyd iddo gyflwyno'r neges i'r bobl ifanc - fod Iesu yn ffrind. Actiwyd hanes ei fywyd cynnar - yn Soar Penboyr a'r ffaith ei fod yn hoff o b锚l droed, yn mynd i bysgota yn lle mynd i wersi piano, ac yn dda am chwarae snwcer hefyd!
Yn rhan o'r perfformiad roedd cyflwyniadau ar DVD drwy sgr卯n fawr yn y capel a hynny gan ffrindiau bore oes, cyd-fyfyrwyr yn y coleg, ffrindiau, cyd-weinidogion a hefyd atgofion pobl o'r gwahanol ardaloedd lle bu'n weinidog. Ar y diwedd cafwyd c芒n i gloi'r perfformiad gan yr Ysgol Sul - gan ddweud yn anad dim arall - fod Edward yn ffrind i'r plant a'r bobol.
Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Nancy Thomas, Eleri Davies, Sh芒n Evans, Merfyn Jones, Dyfrig Davies, ac Arwyn Evans, gydag Owain Gruffydd wrth yr organ, a Nia Clwyd yn cyfeilio ar y piano. Trwy gymorth Teledu Telesgop, Cwmni Cudyll Coch, Rhodri Gruffydd, a Robin Owen ffilmiwyd, golygwyd a dangoswyd y DVD, gyda Lowri Jones a Ffion Rees, dwy athrawes ifanc yr Ysgol Sul yn arwain y perfformiad. Roedd bron i 25 o blant a phobl ifanc yn rhan o'r perfformiad.
Er mai achlysur trist ar un llaw oedd y gwasanaeth, roedd hefyd yn gyfle i ddweud diolch ac i ddangos gwerthfawrogiad i weinidog sydd trwy ei frwdfrydedd a'i gyfoesedd wedi sicrhau fod y Capel Newydd heb ddisgyn o ran aelodau a heb golli bwrlwm ei hysgol Sul.
Dymunwn iechyd ac ymddeoliad hir a hapus, gan ddiolch iddo ac i Rhiannon ei briod am eu holl waith caled.
W.D.D.