Ar y penwythnos cyntaf ym mis Hydref trefnais daith i 38 o bobl mewn bws wedi ei logi gan Midway Motors Crymych, i'r Pwlldu (Blackpool) i sefyll yn ngwesty'r Gresham, sydd yn cael ei redeg gan Aloma a'i phriod Roy James a Tony ers 19 mlynedd.
Saif gwesty'r Gresham dafliad carreg o'r adeilad enwog "Winter Gardens" a thua 300 medr o'r t诺r enwog. Roedd wynebau'r teithwyr i gyd i weld yn hapus ar fore dydd Gwener, rhai ar eu taith cyntaf i'r Pwlldu i weld y goleuadau lliwgar enwog, rhai parau priod i ffwrdd am y tro cyntaf ers 35 mlynedd o fywyd priodasol.
Penderfynwyd cael cinio mewn bwyty yn y parc antur o'r enw Coed -y- Dinas tu allan i'r Trallwng. Safle hen fferm yw, a penderfynodd y perchennog arallgyfeirio ar 么l cael ei holl stoc anifeiliaid wedi eu difa pan gafodd ei fwrw gan y clefyd Traed a'r Genau n么l yn 2001. Hyfryd oedd gweld yr adeiladau wedi cael eu troi i wahanol bwrpas, fel t欧^ bwyta, siop fwyd a chanolfan garddio.
Cyraeddasom westy'r Gresham tua amser te, ac ar 么l swper reit flasus roedd Wyndham Rees yn barod i'n gyrru yn ei fws moethus i weld y goleuadau lliwgar sydd yn ymestyn tua 6 milltir a chymerodd hyn awr a hanner. N么l i'r gwesty ble roedd Tony a Roy ar yr allweddellau yn barod i'n diddanu. Aeth y canu ymlaen tan ganol nos, mewn awyrgylch hollol Gymreig.
Bore trannoeth ar 么l brecwast ymweld 芒 Marchnad Fleetwood, ble roedd popeth ar gael am bris rhesymol, yn y prynhawn ymweld 芒 "Ystafell Ddawnsio". Nid oedd yn bosib mynd i fyny i'r T诺r oherwydd gwynt cryf.
Ar 么l swper euthum 芒 thua hanner dwsin ar daith enwog ar y tram am tua pedair milltir i fyny i Bisham. Roedd hyn yn brofiad iddynt, oherwydd nid oeddent wedi teithio ar un o'r blaen. Mae rhan fwyaf o dramiau y Pwlldu yn dyddio n么l i ganol tridegau'r ganrif ddiwethaf. Cyrraedd yn 么l ac yn y gwesty roedd Caryl Parry Jones a'r Band yn barod i'n diddanu sef Christian Phillips (git芒r), Miriam Isaac (ei merch yn canu), a Steffan Rhys Williams, enillydd C芒n i Gymru 1999, (llais / peiriannydd sain). Cawsom wledd o ganu ganddynt. I gloi'r noswaith, fel syrpreis i ni, cawsom weld Tony ac Aloma ar y llwyfan yn canu dwy g芒n sef "Wedi colli rhywun sy'n annwyl" a "Cofion gorau". Yr oeddem i gyd yn ddiolchgar i Aloma am frwydro i ganu, oherwydd cyflwr ei hiechyd.
Ar 么l brecwast blasus fore Sul, rhaid oedd troi yn 么l am adre gan alw yn Chorley i ymweld 芒 siop enfawr "Bygone Times" yn cynnig pob math o hen bethau fel offer ffermio, hen gelfi, ambell feic ac arwyddion hynafol fel "Lyons Tea" a'i
debyg. Heb ddatgelu unrhyw enw, roedd Wyndham yn fwy na pharod i gludo ym mol y bws pethau fel cadair siglo, bwrdd crwn, stondin cylchgronau a set procio t芒n.
Erbyn hyn maent mewn cartrefi clud "rywle ym Mro Dinefwr". Roedd pawb yn awyddus i gael cinio rhost Dydd Sul fel arfer, a threfnais ymlaen llaw i alw yn 么l yn Coed -y- Dinas, a chafodd pawb wledd. Cyrhaeddom yn 么l i Fro Dinefwr tua 7 o'r gloch.
Bwriedir mynd n么l i'r Gresham yn yr ail benwythnos ym mis Hydref 2007,gan fod y gwesty eisioes wedi llogi Iona ac Andy a'u Canu Gwlad i diddanu am y penwythnos.
Mae Aloma, Roy, a Tony bob amser yn falch i weld rhai o Gymru yn dod i sefyll yn eu gwesty yn enwedig yn ystod tymor y goleuadau. Mae adloniant Cymreig wedi ei baratoi ganddynt o flaen llaw i'r gwestion.
Carwn ddiolch i bawb am fy nghefnogi, ac i Wyndham Rees gyrrwr a pherchennog Midway Motors Crymych am daith hwylus.
Hywel Jones