Roedd hi fel y bedd yn Llanymddyfri ar brynhawn Sadwrn gan fod y rhan fwyaf o'r trigolion yng Nghaerdydd yn cefnogi'r Porthmyn.
Cafwyd perfformiad llawn penderfyniad, ias a chyffro gan y t卯m a throdd y freuddwyd yn realiti wrth i'r Porthmyn sicrhau'r fuddugoliaeth unigryw.
Viv Jenkins, yr Asgllewr oedd y cyntaf i sgorio wrth gicio drwyddo i'r asgell cyn cael cais yn y gornel dde. Yn dilyn hyn, rhoddodd trosgais y gwib-hanerwr Howard Thomas Llanymddyfri 7-0 ar y blaen. Datblygodd yr hanner cyntaf yn ornest glos ond llwyddodd Caerdydd i grafangu n么l gyda dwy gic gosb cyn i Lanymddyfri gael un cic gosb a gorffen hanner amser 10-6.
Erbyn yr ail hanner roedd Caerdydd yn fwy hyderus a'r cefnwyr yn arbennig yn edrych yn eithaf peryglus. Ond cafodd Llanymddyfri hefyd adegau cofiadwy a dylsent fod wedi sgorio cais pe bai Tom Walker wedi ildio'r b锚l ar linell Caerdydd. Wrth i'r g锚m dynnu at ei therfyn, oherwydd y pwysau cynyddol gan Gaerdydd, trodd y sg么r 13-12 o blaid Llanymddyfri yn 13-18 i Gaerdydd wrth i Craig Evans sicrhau dwy gic adlam raenus. Roedd hi'n edrych fel petai 'ffleiars' y ddinas am fynd 芒 hi.
Ond, dangosodd Y Porthmyn yr un penderfyniad a oedd wedi eu cynnal trwy gydol y g锚m a brwydro n么l gydag un ymdrech fawr olaf. Enillodd Llanymddyfri y b锚l yn agos at llinell Caerdydd a diolch i waith pasio bendigedig aeth Endaf Howells ymlaen i sgorio cais. Fe droswyd gan Howard Thomas a sicrhaodd hyn fuddugoliaeth hanesyddol 20-18 i'r Porthmyn.
Casglwyd y cwpan gan y capten Arwel Davies ac yna dathlwyd y fuddugoliaeth hyd at oriau m芒n y bore yn Llanymddyfri a go brin y byddai hyd yn oed y Ficer Pritchard wedi gwarafun hyn ar achlysur mor unigryw.
Ry'n ni yma o hyd a cherddwn ymlaen!!! Meic Davies
Adroddiad ar wefan Chwaraeon 成人论坛 Cymru'r Byd.
|