Gyda llawenydd mawr y daeth y newyddion i ddarllenwyr Y Lloffwr fod Mansel Charles o Lanegwad wedi cael ei urddo i'r Wisg Werdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni am ei gyfraniad i fywyd diwylliannol Dyffryn Tywi. Mansel oedd un o sylfaenwyr Y Lloffwr, a dros y blynyddoedd ers ei sefydlu ym 1978 cyfrannodd yn gyson fel gohebydd ac aelod o'r Bwrdd Golygyddol. Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf bu'n gweithredu'n ddiwyd fel Uwch Olygydd a chyn hynny fel Cadeirydd y papur. Yn ddiweddar bu Mansel yn Gadeirydd ar brosiect arloesol a gafodd nawdd Ewropeaidd i gynorthwyo pump o bapurau bro yn y sir ac mae of newydd ddechrau ar gyfnod fel Cadeirydd 'Diwylliant Byw' sef prosiect Ewropeaidd arall a sefydlwyd er mwyn hybu gweithgaredd celfyddydol a diwylliannol yng nghymunedau gwledig Sir G芒r. Fel y g诺yr pawb sy'n ei adnabod mae Mansel yn ffermio buches o wartheg Duon Cymreig ac newydd ymddeol ar 么l gwasanaethu Undeb Amaethwyr Cymru fel swyddog rhanbarthol am un mlynedd ar hugain. Er ei brysurdeb yn gwarchod buddiannau ffermwyr Gogledd Sir G芒r llwyddodd i gyfrannu'n helaeth iawn i fywyd diwylliannol yr ardal. Bu'n gysylltiedig 芒 Mudiad y Ffermwyr Ifainc dros gyfnod o ddeugain mlynedd - yn lleol gyda Chlwb Cwrt Henri ac yn sirol fel Cadeirydd a Llywydd, ac fe'i anrhydedd d fel 'aelod am oes' am ei waith nodedig gyda'r mudiad. Roedd Mansel yn un o sylfaenwyr Menter Bro Dinefwr ac yn Gadeirydd am y tair blynedd gyntaf gan osod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol. Bu'n aelod o Gyngor Bro lleol ers 1977 ac yn Gadeirydd ar dri achlysur. Pan fu'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Dinefwr ym 1996 roedd Mansel yn aelod diwyd o'r Pwyllgor Gwaith ac yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyhoeddusrwydd. Ar ben hyn oll y mae yn 诺r sydd wedi cefnogi llu o elusennau lleol a sirol ac yn amlwg ei gefnogaeth i bopeth sydd yn ymwneud 芒'r pethe yn yr ardal. Llongyfarchiadau mawr iddo ar ran holl ddarllenwyr Y Lloffwr ar ei anrhydedd diweddar gan ddymuno pob iechyd iddo i barhau i wasanaethu'r ardal am nifer o flynyddoedd eto.
|