Hanner can mlynedd yn 么l cychwynnwyd ar addysg gynradd Gymraeg yn Llandeilo. I ddathlu'r achlysur fe wnaeth disgyblion ac athrawon Ysgol Gymraeg Teilo Sant lwyfannu perfformiad o sioe gerdd wreiddiol "Pen-blwydd Hapus".
Mewn tri pherfformiad gwefreiddiodd y disgyblion y gynulleidfa gan fynd n么l dros hanes y brwydro a'r sefydlu.
Yn rhan o'r noson, roedd yna arddangosfa o hen luniau o'r ysgol gyda chopiau o lyfr cofnodion a'r adroddiadau fu yn y papurau bryd hynny. Mae'r lluniau a lle i rannu atgofion ar wefan yr Ysgol - sef www.teilosant.amdro.org.uk
Atgofion Eleri
Pleser pur i mi oedd addysg ar ol dechrau yn y Ffrwd Gymraeg, fel y'i gelwid y pryd hwnnw, yn enwedig o brofi dirmyg gan nad oeddwn yn medru'r Saesneg (gan athrawon nid plant) yn y flwyddyn a dreuliais yn yr ysgol gynradd.
Er bod yr adeilad yn hollol noeth oni bai am ddesgiau ac un bwrdd athrawes a than glo, cyffrous oedd yr ymdeimlad wrth gerdded i mewn trwy'r drws. Roedd wyth ohonom - David Booth, Mansel Thomas, Peter Purcevall, Elizabeth Jones, Patricia Mulligan, Theresa Davies a minnau, a rhyfeddaf o hyd at ddewrder rhai o'r rhieni nad oedd ganddynt ddim Cymraeg am wneud y llam hwn mewn ffydd. Cyn diwedd y flwyddyn ysgol roedd nifer o rai eraill wedi ymuno gyda ni, Nano Booth, Maria Evans, Angela Rees, Michael Williams, Hywel Williams, Eleri Thomas yn eu plith.
Ar y cychwyn nid oedd yno unrhyw adnoddau! Creodd Miss Mary Davies (Mrs Roberts erbyn hyn wrth gwrs) bosteri o'r Wyddor ac ati i'w gosod ar y muriau a daeth 芒 llyfrau plant oedd ganddi gartref i lanw rhai o'r silffoedd gwag. O dipyn i beth fe gafwyd mwy o deganau a llyfrau a chyfarpar and cofiaf yn iawn i'r ddwy athrawes (roedd Mrs Rachel Arnold wedi dod atom erbyn hyn oherwydd y cynnydd yn y nifer) fod yn gandryll am nad oeddent wedi derbyn popeth a ofynnwyd amdano.
Deuai'r stof fawr yn handi yn y gaeaf oherwydd tra'n bod ni allan yn chwarae yn ein rhan ni o'r iard eisteddai Miss Davies wrthi yn gweu. Byddai diddordeb mawr gan y merched i weld beth fyddai'r dilledyn! Hefyd, pan fyddai'r llaeth a gaem bob amser chwarae yn rhewi yn y poteli byddai modd ei ddadmer ar y stof. Nid yw yfed llaeth wedi apelio ataf byth oddi ar hynny.
Byddai dydd Gwener yn fwrn a phleser i mi. Yn y bore caem brawf syms a phrawf sillafu and yn y prynhawn byddai'n amser stori ac, yn ddiweddarach, yn amser gwrando ar y radio - pan oedd hwnnw'n gweithio! Byddai'n rhaid tapio'r gwifrau at ei gilydd nes bod sparcs yn hedfan gyntaf ac yna fe gaem raglen Gymraeg i ysgolion.
Cafwyd eisteddfod Gwyl Dewi un flwyddyn hefyd ac er nad oedd ond 25 ohonom cawsom raglen lawn.
O dipyn i beth, cynyddodd y rhifau a daeth Mrs Arnold atom. Gyda dwy athrawes mor ymroddedig roedd pethau yn siwr o lwyddo. Un haf aethom am drip i Bontypridd i weld cartref awduron Hen Wlad Fy Nhadau a galw yn y farchnad agored yr un pryd. Cawsom bob cyfle yr oedd modd iddynt ei roi i ni. Cyfeirient atom bob amser fel "ein plant ni" a doeddem ni ddim i fod i gael unrhyw gam. Mawr yw fy nyled iddynt am greu awyrgylch gartrefol, er bod eu disgwyliadau ohonom yn uchel yn enwedig o gofio fod cymaint o bobl yn gobeithio y byddai'r arbrawf yn fethiant!
Erbyn hyn mae'r fesen fach wedi tyfu'n dderwen. Hir y byddo'n ffrwytho eto.
Eleri Davies