Ganwyd James Eirian Davies yn blentyn ieuengaf teulu llengar Y Llain, Nantgaredig ar 28 Mai 1918. Y drasiedi o golli ei frawd Emrys yn ei arddegau, tra roedd y ddau yn nofio yn afon Tywi a arweiniodd Eirian Davies rai blynyddoedd yn ddiweddarach i fynd i'r weinidogaeth. Aeth i Goleg Trefeca ac yna i Goleg y Brifysgol, Abertawe. Tra yn y Coleg enillodd gadair a choron yr Eisteddfod Ryng-golegol ddwy waith. Parhaodd 芒'i hyfforddiant yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth. Bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym Methel, Hirwaun; Morea, Brynaman cyn symud i Fethesda'r Wyddgrug. Roedd yn bregethwr arbennig a'i wreiddioldeb yn golygu bod pob un yn deall ei neges. Er iddo wisgo'n llachar yn y dyddiau cynnar, ei lais cyfareddol cynnes sy'n aros yng nghof y gynulleidfa. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth "Awen y Wawr" yn 1947 yn ystod ei ddyddiau coleg. Fe'i dilynwyd gan bedair cyfrol arall o farddoniaeth: - "C芒n Galed", "Cyfrol o Gerddi", "Darnau Difyr" (cyfrol i blant) ac "Awen yr Hwyr". Cyfrol o ddeunydd ar gyfer eglwysi oedd "At eich Gwasanaeth". Priododd 芒 Jennie, merch fferm "Llandre", Llanpumsaint, a'r ddau yn cydweithio yn hwylus yn yr eglwysi ac Eirian am gyfnod yn cynorthwyo ei wraig i gyd-olygu'r Faner. Ganwyd iddynt ddau o blant, Si么n a Guto. G诺r addfwyn heddychlon oedd Eirian. Mae'r rhan fwyaf o'i gerddi yn ymdrin 芒 chyflwr crefydd, yr iaith, y genedl ac heddychiaeth. Wedi dychwelyd i Sir G芒r, parhaodd i bregethu yn achlysurol, darlledu ar y radio ac ysgrifennu'r golofn hynod o ddiddorol "Gair neu Ddau" yn y Western Mail. Bu farw dydd Sul, 5 Gorffennaf 1998. Yn 么l ei ddymuniad gwasgarwyd ei lwch yn afon Tywi, yn y fan lle boddwyd Emrys. Yng ngeiriau ei gyfaill agos Gwyn Erfyl:- "Pan fu farw Eirian, fe gollodd Cymru fymryn o'i lliw". Ar nos Wener, 7 Mai dadorchuddiwyd cofeb iddo yng nghapel MC Nantgaredig am 7.00 o'r gloch. Elonwy Phillips
|